Ynglyn â'r wefan hon
Mae gwefan Y Gwasanaeth Pensiwn yn darparu gwybodaeth ddiduedd Llywodraeth y DU am bensiynau’r wladwriaeth a phensiynau preifat, p’un a ydych wedi ymddeol, yn agosáu at ymddeol neu’n cynllunio ymlaen llaw ar gyfer ymddeol. Mae hefyd yn cynnwys canllaw ymarferol i’r cymorth sydd ar gael ar draws y Llywodraeth i bobl sydd wedi ymddeol (Canllaw pensiynwyr).
Mae’r Gwasanaeth Pensiwn yn rhan o’r Adran Gwaith a Phensiynau. Rhagor o wybodaeth am Y Gwasanaeth Pensiwn
Ar wefan Y Gwasanaeth Pensiwn dewch o hyd i:
- sut i gysylltu â ni yn eich ardal dros y ffôn, ffacs, e-bost neu drwy’r post
- gwybodaeth a ffurflenni cais Pensiwn y Wladwriaeth
- gwybodaeth a ffurflenni cais rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth
- ganllawiau i’ch opsiynau pensiwn
- gwybodaeth Credyd Pensiwn, cyfrifiannell a ffurflenni cais
- gwybodaeth Taliad Tanwydd Gaeaf, llinell gymorth ebost a ffurflenni cais
I gael rhagor o wybodaeth am yr hyn y gallwch ddod o hyd iddo ar y wefan hon, ewch i fap y wefan
Os ydych yn ddarparwr pensiwn neu’n ymgynghorydd ariannol, ymwelwch â’r adran darparwr/ymgynghorydd.
Os ydych yn gyflogwr, dewch o hyd i fwy o wybodaeth yn yr adran cyflogwyr
Rhyddid Gwybodaeth
Derbyniodd Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (y Ddeddf) Gydsyniad Brenhinol ar 30 Tachwedd 2000. Mae’r Ddeddf yn rhoi hawl i unrhyw berson, o unrhyw genedligrwydd, unrhyw le yn y byd, ofyn am wybodaeth swyddogol gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) ac unrhyw awdurdodau cyhoeddus eraill.
Mae’r hawl yn amodol ar rai eithriadau. Dechreuodd yr hawliau mynediad hyn ar 1 Ionawr 2005.
Cewch ragor o wybodaeth am y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth ar wefan yr Adran Gwaith a Phensiynau
Gwefannau sy’n gysylltiedig â’r Adran Gwaith a Phensiynau
Y Fargen Newydd – mae’n rhoi help a chymorth
i bobl sy’n gwneud cais am fudd-daliadau i chwilio am waith, dod
o hyd i gyfleoedd hyfforddiant a pharatoi at waith, yn cynnwys gwybodaeth
am y Fargen Newydd 50 a throsodd.
Ewch
i wefan y Fargen Newydd
Ydych chi dros 50? - canllaw ymarferol i gyngor, cymorth
a gwasanaethau sydd ar gael drwy Lywodraeth y DU a sefydliadau gwirfoddol,
ar gyfer pobl 50 oed a throsodd.
Ewch i wefan Ydych chi
dros 50?
Pobl anabl a gofalwyr
- Mae’r Llywodraeth yn ei wneud yn haws i chi gael gafael ar wybodaeth
a gwasanaethau drwy wefan o’r enw Directgov. Mae’n darparu
gwybodaeth am bobl anabl a gofalwyr mewn meysydd fel cyflogaeth, iechyd
ac addysg, yn ogystal â chyngor ar gymorth ariannol, byw yn annibynnol
a hawliau.
Rhagor o wybodaeth am Directgov i bobl anabl (nid gwefan Yr Adran Gwaith a Phensiynau).
Rhagor o wybodaeth am Directgov i ofalwyr (nid gwefan Yr Adran Gwaith a Phensiynau). - I gael rhagor o wybodaeth am amrywiaeth o fudd-daliadau a gwasanaethau ar gyfer pobl sy’n sâl neu sydd ag anabledd, ewch i ran pobl anabl a gofalwyr gwefan Directgov
- I gael gwybodaeth polisi am hawliau pobl anabl a gwybodaeth am ddeddfwriaeth anabledd y DU, ewch i wefan Directgov
Gwefannau eraill Yr Adran Gwaith a Phensiynau
Y Ganolfan Byd Gwaith – help i ddod o hyd i swyddi
a gwybodaeth am fudd-daliadau, i bobl o oedran gweithio, yn cynnwys chwiliad
gwaith gyda mynediad i dros 400,000 o swyddi gwag.
Ewch i wefan
yr Adran Gwaith a Phensiynau
Yr Asiantaeth Cynnal Plant - gwybodaeth am sut mae’r
Asiantaeth Cynnal Plant yn asesu. casglu a thalu cynhaliaeth cynnal plant,
yn cynnwys cyfrifiannell cynhaliaeth plant.
Ewch i wefan yr Asiantaeth Cynnal Plant
Targedu lladron budd-daliadau - gwybodaeth am ymgyrch
Targedu lladron budd-daliadau a gweithgaredd ehangach yr Adran Gwaith
a Phensiynau yn erbyn lladrad budd-daliadau a thwyll. Gallwch hefyd roi
gwybod am bobl rydych yn eu hamau o ladrad budd-daliadau.
Ewch
i wefan Targedu lladron budd-daliadau
I gael rhagor o wybodaeth am yr Adran Gwaith a Phensiynau yn gyffredinol, ymwelwch â gwefan yr Adran Gwaith a Phensiynau


