Amdanom ni

Gwasanaeth cwsmeriaid

Dywedwch wrthym sut i wella ein gwasanaeth

Rydym am glywed eich sylwadau a’ch cwynion am ein gwasanaeth. Mae’r daflen hon yn dweud wrthych beth i’w wneud os ydych yn anfodlon gyda rhywbeth rydym wedi’i wneud,neu credwch ein bod wedi gwneud rhywbeth yn anghywir.

Dywedwch wrthym sut i wella ein gwasanaeth [GL22W] – [ffeil PDF 949kb]

Gallwch ofyn bod copïau o ganllawiau’r Gwasanaeth Pensiwn yn cael eu hanfon atoch drwy’r post. Gallwch archebu copïau ar-lein neu archebu copïau dros y ffôn

Mae ein canllawiau hefyd ar gael yn Braille neu ar gasét sain

Sut i ddarllen neu argraffu canllawiau a ffurflenni

I ddarllen y canllawiau ar-lein, neu i’w hargraffu, mae angen i chi osod Adobe Reader ar eich cyfrifiadur. Os nad oes gennych Adobe Reader eisoes, gallwch ei gael o wefan Adobe

Ffyrdd eraill o ddarllen canllawiau

Os ydych yn defnyddio meddalwedd darllenydd sgrîn neu borwr gwe â sain mae Adobe yn darparu offeryn ar-lein am ddim y gallwch ei ddefnyddio i drosi’r canllawiau i ffurf testun clir (‘plain text’).

I ddefnyddio offeryn ar-lein Adobe:

1. Dewch o hyd i’r cysylltiad ar y wefan hon i’r canllaw rydych am ei ddarllen, a’i gopïo
2. Ewch i offeryn ar-lein Adobe
3. Dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrîn

Bydd yr offeryn yn dangos y canllaw rydych wedi’i ddewis fel tudalen ar y we (HTML) neu fel testun clir.

Gallwch ddarllen rhagor am Adobe Reader a hygyrchedd ar wefan Adobe