Cyflwyniad
Pwy ydym ni
Mae’r Llywodraeth wedi sefydlu’r Gwasanaeth Pensiwn, sy’n rhan o’r Adran Gwaith a Phensiynau. Fe’i sefydlwyd i wella’r gwasanaeth rydych yn ei dderbyn, p’un a ydych eisoes yn bensiynwr neu’n cynllunio ar gyfer eich ymddeoliad, waeth pa mor bell i ffwrdd y gallai hynny fod.
Mae gan Y Gwasanaeth Pensiwn rwydwaith o ganolfannau pensiwn a gefnogir gan wasanaeth lleol. I ganfod sut i gysylltu â’r Gwasanaeth Pensiwn yn eich ardal, ewch i Cysylltu â ni.
Pwy ydym ni
Bydd Y Gwasanaeth Pensiwn yn:
- gweithio allan y swm o Bensiwn y Wladwriaeth a Chredyd Pensiwn y mae gennych hawl iddynt
- darparu gwasanaeth wyneb yn wyneb mewn lle sy'n gyfleus i chi neu yn eich cartref eich hun os na ellir delio â'ch materion dros y ffôn
- talu'r hyn sydd gennych hawl iddo ac ateb cwestiynau dros y ffôn a thrwy'r post a thros yr e-bost
- dweud wrthych sut y gallwch gael gafael ar hawliadau
- gwasanaethau eraill sy'n gysylltiedig â phensiwn· gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau lleol eraill er mwyn cyflwyno gwasanaethau sy'n gysylltiedig â phensiwn
Ein cynllun busnes
Y Gwasanaeth Pensiwn Cynllun Busnes 2009/10
Ein cynlluniau cydraddoldeb
Cynlluniau Cydraddoldeb Y Gwasanaeth Pensiwn


