Asesiad Effeithiolrwydd
Proses gwell newid mewn amgylchiadau ac ymholiadau (anabledd) Awst 2007
Y bwriad yw gwella proses newid mewn amgylchiadau ac ymholiadau Pensiwn y Wladwriaeth/ Credyd Pensiwn fel rhan o’r Rhaglen Trawsnewid Pensiynau (PTP)
Y Prif Weithgareddau:
- Ar gyfer newidiadau mewn amgylchiadau wedi’u cymryd dros y ffôn ni fydd cwsmeriaid angen anfon cadarnhad ysgifenedig i fewn.
- Dim ond angen siarad ag un ymgynghorydd i wneud ymholiad neu hysbysu newid mewn amgylchiadau bydd cwsmeriaid angen ei wneud.
- Bydd anghenion a dewisiadau cwsmeriaid a’u cynrychiolwyr yn cael eu dal a’u cadw ar y system Rheoli Cyfrif Cwsmer (CAM) pan fydd cwsmer neu eu cynrychiolydd yn cysylltu ac mae ‘trafodaeth ei angen o hyd’ yn cael ei amlygu.
- Bydd yr ymgynghorydd cwsmer yn cael gwybod yn awtomatig o anghenion cyfathrebu ychwanegol a ddywedwyd amdano’n flaenorol.
- Bydd cwsmeriaid yn derbyn cynnyrch CAM print mawr pan mae’r angen wedi ei ddangos.
- Bydd defnyddiau cwsmer yn cael eu hanfon allan yn awtomatig mewn Braille pan mae’r angen wedi ei ddangos.
- Bydd cynrychiolwyr anffurfiol yn gallu hysbysu newidiadau cyn belled ag eu bod yn ateb cwestiynau diogelwch yn seiliedig ar y data cwsmer (oni bai eu bod yn hysbysu farwolaeth y cwsmer pan fydd y newid yn cael ei gymryd hyd yn oed os ydynt yn methu cwestiynau diogelwch).
- Bydd cadarnhad ysgrifenedig o’r newid a manylion o pwy a’i hysbysebodd yn cael ei anfon at y cwsmer, os nad yw’r cynrychiolydd yn hysbysu marwolaeth y cwsmer. Yn yr achos hwn bydd y llythyr yn cael ei anfon yn syth at y person sy’n delio â’r ystad neu’r perthynas agosaf.
- Bydd hanes cyswllt yn cofnodi’r enw, rhif ffôn a’r math o gynrychiolydd.
- Bydd data am y cynrychiolydd yn cael ei gadw yn ‘contact history’ (yn barhaol) a bydd yr ‘Informal Rep view ‘(dros dro) hyd at ddal manylion cynrychiolydd anffurfiol.
- Ni fyddwn yn gofyn am lofnod y cwsmer ar adolygiadau achosion ond yn syml anfon allan dataganiad o fanylion pan fydd yr adolygiad wedi’i gwblhau dros y ffôn.
- Bydd gan lythyrau sydd wedi eu hanfon at gwsmeriaid baragraff ychwanegol yn esbonio am fformatau gwahanol.
- Bydd PC2W (ffurflen adolygu) hefyd yn gofyn am anghenion cyswllt ychwanegol cwsmer.
Tystiolaeth ac Ymgynghoriad
Cafodd newidiadau eu profi gyda amryw o grwpiau cwsmeriaid a’r canlyniad yw na fydd dim effaith anffafriol neu anghyfartal. Bydd effaith positif ar gwsmeriaid ag anableddau oherwydd unwaith y bydd eu anghenion wedi cael eu cofnodi ni fydd hyn yn cael ei ofyn iddynt ar pob cyswllt pellach ac felly byddant yn manteisio ar brofiad cwsmer gwell. Mae print mawr i newid mewn amgylchiadau yn cydymffurfio gyda prosesu cais Pensiwn y Wladwriaeth/Credyd Pensiwn a gellir ei anfon allan yn syth o CAM.
Ymgynghorodd Rhaglen Trawsnewid Pensiwn (PTP) gyda cwsmeriaid ac eu cynrychiolwyr i gael dealltwriaeth cwsmer i gynllun o’r proses ceisiadau newydd drwy Partnership Against Poverty Groups, a Fforwm Polisi a Strategaeth Adran Gwaith a Phensiynau.
Effeithiolrwydd
Mae’r rhan sgrinio o Asesiad Effeithiolrwydd wedi dangos nad oes effaith anffafriol uniongyrchol neu anuniongyrchol ar gwsmeriaid ac nid oes tystiolaeth o unrhyw effaith anghyfartal ar unrhyw gr_p fel canlyniadau o’r newidiadau hyn. Yn ychwanegol, mae cyfleoedd i wella gwasanaethau i’n cwsmeriaid wedi cael eu defnyddio, ac mae’r newidiadau yn cynnal cynllun hir dymor i fynd a’r gwelliannau hyn ymhellach.
Monitro
Bydd effaith y newidiadau hyn yn cael eu monitor drwy arolwg cwsmer a siopa dirgel a chanlyniadau yn cael eu cyhoeddi drwy adroddiad blynyddol Y Gwasanaeth Pensiwn.
Mae gwybodaeth pellach ar sut mae Rhaglen Trawsnewid Pensiwn (PTP) yn cael ei gynnwys yn y cynnyrch Wave 2a Profiad Cwsmer cynllun a Mesur.


