Amdanom ni

Asesiad Effeithiolrwydd

Gwella proses newid mewn amgylchiadau ac ymholiadau (hil) – Awst 2007

Y bwriad yw gwella proses newid mewn amgylchiadau ac ymholiadau Pensiwn y Wladwriaeth/ Credyd Pensiwn fel rhan o’r Rhaglen Trawsnewid Pensiwn (PTP).

Y Prif Weithgareddau:

  1. 1. Ar gyfer newidiadau mewn amgylchiadau wedi’u cymryd dros y ffôn ni fydd cwsmeriaid angen anfon cadarnhad ysgrifenedig i fewn.
  2. Dim ond angen siarad ag un ymgynghorydd i wneud ymholiad neu hysbysu newid mewn amgylchiadau bydd cwsmeriaid angen ei wneud.
  3. Bydd anghenion cyfathrebu cwsmeriaid a’u cynrychiolwyr yn cael eu dal yn rhagweithiol a’u cadw ar y System Rheoli Cyfrif Cwsmer (CAM) pan maent yn cysylltu ac nid ydym yn dal y wybodaeth hyn eisioes.
  4. Bydd y datganiad diogelwch data priodol yn cael ei gynnwys yn y Datganiad Manylion (RM) neu ffurflen PC14W.
  5. Bydd cynrychiolwyr anffurfiol yn gallu hysbysu newidiadau cyn belled ag eu bod yn ateb cwestiynau diogelwch yn seiliedig ar y data cwsmer (oni bai eu bod yn hysbysu marwolaeth y cwsmer pan fydd y newid yn cael ei gymryd hyd yn oed os ydynt yn methu cwestiynau diogelwch.
  6. Bydd cadarnhad ysgrifenedig o’r newid a manylion o pwy a’i hysbysebodd yn cael ei anfon at y cwsmer, os nad yw’r cynrychiolydd yn hysbysu marwolaeth y cwsmer. Yn yr achos hwn bydd y llythyr yn cael ei anfon yn syth at y person a ffoniodd.
  7. Ni fyddwn yn gofyn am lofnod y cwsmer ar adolygiadau achos ond yn syml anfon allan datganiad o fanylion.
  8. Ymgorfforiad nodiadau i’r ffurflen PC2(65)W a fydd yn gwneud y ffurflen yn haws i’w dilyn ac yn un daflen yn llai i’r cwsmer.
  9. Ni fydd y sgrin ethnigrwydd yn cael ei dangos pan fydd cwsmer yn hysbysu newid os bydd y data, neu dewis ddim i ddweud, yn cael ei ddal yn barod.
  10. Bydd Datganiad Manylion (RM) yn cael ei anfon ar gyfer newid mewn amgylchiadau a hysbysir.

Tystiolaeth ac Ymgynghoriad

Nid yw ymchwil blaenorol i anghenion cwsmeriaid wedi dangos unrhyw anghyfartaledd yn y ffordd mae dynion a merched yn cael eu trin. Mae profion cwsmer, fodd bynnag wedi nodi lefelau addysg a llythrennedd Saesneg gwael ymhlith merched Indiaidd /Bangladeshi, ac fod merched Bangladeshi yn fwy tebygol i droi at berthynas gwryw am unrhyw ymadwaith â’r Gwasanaeth Pensiwn.

Effeithiolrwydd

Mae’r rhan sgrinio hon o Asesiad Effeithiolrwydd wedi dangos nad oes effaith anffafriol uniongyrchol neu anuniongyrchol ar faterion rhyw ac nid oes tystiolaeth o unrhyw effaith anghyfartal fel canlyniadau o’r newidiadau hyn. Yn ychwanegol, mae’r gwasanaeth i ferched yn y gymdeithas Indiaidd/Bengali wedi gwella drwy gymryd newid mewn amgylchiadau dros y ffôn a gwella gwasanaeth i gynrychiolwyr cwsmer.

Ymhellach mae holl arolygiadau cwsmer yn torri i lawr rhyw yr atebydd i gynhorthwyo dadansoddiad.

Monitro

Bydd effaith y newidiadau hyn yn cael eu monitro drwy arolwg cwsmer a siopa dirgel a chanlyniadau yn cael eu cyhoeddi drwy adroddiad blynyddol Y Gwasanaeth Pensiwn.