Amdanom ni

Asesiad Effeithiolrwydd

Proses gwneud cais gwell am Credyd Pensiwn (anabledd) – Gorffennaf 2006

Y bwriad yw gwella prosesau gwneud cais am Bensiwn Credyd fel rhan o’r Rhaglen Drawsnewid Pensiynau (PTP)

Y Prif Weithgareddau:

  1. Bydd gwybodaeth o ffynonellau eraill yn cael eu defnyddio i gyn-boblogi ceisiasdau cwsmeriaid am Gredyd Pensiwn, a cheisiadau wedi’u cyfuno i Bensiwn y Wladwriaeth a Chredyd Pensiwn yn cael ei cymryd mewn un alwad ffôn.
  2. Bydd anghenion iaith lafar yn cael eu adnabod ac eu cofnodi i gysylltiad yn y dyfodol gyda’r cwsmer.
  3. Drwy hyfforddiant gwell, arweiniad ar-lein a scriptio, bydd cwsmeriaid yn profi gwasanaeth gwell o gwmpas adnabod ac ymateb i’w anghenion iaith lafar.
  4. Mae cynnyrch llythyrau i gefnogi’r cais am Gredyd Pensiwn wedi cael eu ail gynllunio i fod yn fwy cyfeillgar i gwsmeriaid.
  5. Gwasanaeth gwell i gynrychiolwyr cwsmeriaid
  6. Gofynir am ethnigrwydd cwsmeriaid wrth wneud cais am Bensiwn y Wladwriaeth a/neu Gredyd Pensiwn.
  7. I wneud i ffwrdd â’r angen i’r cwsmeriaid lofnodi’r ffurflen gais yn dilyn cais am Gredyd Pensiwn dros y ffôn.
  8. I gynghori cwsmeriaid, pan yn bosibl, o’u hawl dros dro i Gredyd Pensiwn ar ddiwedd yr alwad ffôn
  9. Bydd yr amser clirio cyflawn o ben i ben am geisiadau Credyd Pensiwn yn gynt.
  10. Gofynir am anghenion cyswllt ychwanegol cwsmeriaid ar gyfer cyswllt yn y dyfodol gyda’r cwsmer.
  11. Awtomateiddio proses print mawr a gwasanaeth Braille gwell.
  12. Gall cwsmeriaid gael eu cymryd drwy gais am Gredyd Pensiwn yn syth ar ôl cais am Bensiwn y Wladwriaeth. Bydd y cais Credyd Pensiwn yn cynnwys cymryd manylion cais Budd-dal Tai/Budd-dal Treth Cyngor yn rhagweithiol. Bydd hyn yn cael eu hanfon at y cwsmer iddynt wirio cyn eu hanfon i’w Hawdurdod Lleol.

Tystiolaeth ac Ymgynghoriad

Cafodd newidiadau eu profi gyda grwpiau amrywiol o gwsmeriaid a’r canlyniad yw na fyddai effaith anffafriol neu anghyfartal. Bydd effaith positif ar gwsmeriaid ag anableddau oherwydd unwaith y bydd eu anghenion wedi’u cymryd ni fydd hyn yn cael ei ofyn iddynt eto ac felly byddant yn manteisio o brofiad cwsmer gwell. Bydd print mawr i lythyrau Credyd Pensiwn yn cael eu hanfon yn awtomatig unwaith y bydd angen yn cael ei ddangos drwy’r proses gwneud cais.

Ymgynghorodd Rhaglen Trawsnewid Pensiwn (PTP) gyda cwsmeriaid a’u cynrychiolwyr i gael dealltwriaeth cwsmer i gynllun y proses gwneud cais newydd drwy fforwm Partnership Against Poverty, a fforwm Polisi a Strategaeth Adran Gwaith a Phensiynau

Effeithhiolrwydd

Mae’r rhan sgrinio hon o Asesiad Effeithiolrwydd wedi dangos nad oes effaith anffafriol uniongyrchol neu anuniongyrchol ar faterion rhyw ac nid oes tystiolaeth o unrhyw effaith anghyfartal fel canlyniad o’r newidiadau hyn. Yn ychwanegol mae cyfleoedd i wella gwasanaeth i gwsmeriaid Y Gwasanaeth Pensiwn wedi cael eu defnyddio ac mae’r newidiadau yn cynnal cynllun hir dymor i fynd a’r gwelliannau hyn ymhellach.

Monitro

Bydd effaith y newidiadau hyn yn cael eu monitro drwy arolwg cwsmer a siopa dirgel a chanlyniadau yn cael eu cyhoeddi drwy adroddiad blynyddol Y Gwasanaeth Pensiwn.