Asesiad Effeithiolrwydd
Proses gwneud cais (rhyw) gwell am Credyd Pensiwn Gorffennaf 2006
Y bwriad yw gwella prosesau gwneud cais am Bensiwn Credyd fel rhan o’r Rhaglen Drawsnewid Pensiynau (PTP)
Y Prif Weithgareddau:
- Bydd gwybodaeth o ffynonellau eraill yn cael eu defnyddio i gyn-boblogi ceisiadau cwsmeriaid am Gredyd Pensiwn, a cheisiadau wedi’u cyfuno i Bensiwn y Wladwriaeth a Chredyd Pensiwn yn cael ei cymryd mewn un alwad ffôn.
- Bydd anghenion iaith lafar cwsmer yn cael eu hadnabod ac eu cofnodi ar gyfer cysylltiad yn y dyfodol gyda’r cwsmer.
- Drwy hyfforddiant gwell, arweiniad ar-lein a scriptio, bydd cwsmeriaid yn profi gwasanaeth gwell o gwmpas adnabod ac ymateb i’w anghenion iaith lafar.
- Mae cynnyrch llythyrau i gefnogi’r cais am Gredyd Pensiwn wedi cael eu ail gynllunio i fod yn fwy cyfeillgar i gwsmeriaid.
- Gwasanaeth gwell i gynrychiolwyr cwsmeriaid
- Gofynir am ethnigrwydd cwsmeriaid wrth wneud cais am Bensiwn y Wladwriaeth a/neu Gredyd Pensiwn.
- I wneud i ffwrdd â’r angen i’r cwsmeriaid lofnodi’r ffurflen gais yn dilyn cais am Gredyd Pensiwn dros y ffôn.
- I gynghori cwsmeriaid, pan yn bosibl, o’u hawl dros dro i Gredyd Pensiwn ar ddiwedd yr alwad ffôn
- Bydd yr amser clirio cyflawn o ben i ben am geisiadau Credyd Pensiwn yn gynt.
- Gofynir am anghenion gwasanaeth cyswllt ychwanegol cwsmeriaid ac delir ar gyfer cyswllt yn y dyfodol gyda’r cwsmer.
- Awtomateiddio proses print mawr a gwasanaeth Braille gwell.
- Gall cwsmeriaid gael eu tywys drwy gais am Gredyd Pensiwn yn syth ar ôl cais am Bensiwn y Wladwriaeth. Bydd y cais Credyd Pensiwn yn cynnwys cymryd manylion cais Budd-dal Tai/Budd-dal Treth Cyngor yn rhagweithiol. Bydd hyn yn cael eu hanfon at y cwsmer iddynt wirio cyn eu hanfon i’w Hawdurdod Lleol.
Tystiolaeth ac Ymgynghoriad
Ymgynghorodd Rhaglen Trawsnewid Pensiynau (PTP) grwpiau cynrychiolwyr cwsmer yn cynnwys y Partnership Against Poverty Forum a fforymau Polisi a Strategaeth yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP), i gael dealltwriaeth i gynllun y broses newydd o wneud cais.
Cafodd newidiadau eu profi gyda cwsmeriaid lleiafrif ethnig a chytuno na fydd effaith anffafriol neu anghyfartal. Bydd effaith positif ar gwsmeriaid lleiafrif ethnig oherwydd unwaith y bydd eu anghenion llafar wedi eu cymryd; bydd unrhyw gyswllt yn y dyfodol yn cael ei wneud yn awtomatig yn yr iaith o ddewis y cwsmer. Felly byddant yn manteisio ar brofiad cwsmer gwell.
Yn y dyfodol bydd gan Y Gwasaneth Pensiwn fynediad i wybodaeth sy’n dangos ethnigrwydd cwsmer. O ganlyniad bydd Y Gwasanaeth Pensiwn yn gallu targedu grwpiau arbennig o gwsmeriaid i gynnig cynhyrchion priodol a gwasanaethau i unigolion a chario allan asesiadau er mwyn gwella gwasanaethau.
Effeithhiolrwydd
Mae’r rhan sgrinio o Asesiad Effeithiolrwydd wedi dangos nad oes effaith anffafriol uniongyrchol neu anuniongyrchol ar leiafrif ethnig. Nid oes tystiolaeth o unrhyw effaith anghyfartal ar unrhyw gr_p fel canlyniadau o’r newidiadau hyn. Yn ychwanegol, mae cyfleoedd i wella perthnasau gyda grwpiau lleiafrif ethnig, ac i wella cyfartaledd cyfle i gwsmeriaid Y Gwasanaeth Pensiwn wedi cael eu defnyddio, ac mae’r newidiadau yn cynnal cynllun hir dymor i fynd a’r gwelliannau hyn ymhellach.
Monitro
Bydd effaith y newidiadau hyn yn cael eu monitro drwy arolwg cwsmer a siopa dirgel a chanlyniadau yn cael eu cyhoeddi drwy adroddiad blynyddol Y Gwasanaeth Pensiwn.


