Agosáu at ymddeol

Cysylltau perthnasol

Beth yw Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth?

Mae Pensiwn y Wladwriaeth yn cynnwys Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth a Phensiwn y Wladwriaeth ychwanegol. Os byddwch wedi cronni digon o ‘flynyddoedd cymwys’ yn ystod eich bywyd gwaith, byddwch yn cael Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth llawn pan fyddwch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth. ‘Blynyddoedd cymwys’ yw’r blynyddoedd rydych wedi bod yn talu neu’n cael eich trin fel petaech yn talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol. Mewn rhai amgylchiadau, gallwch gael eich credydu â chyfraniadau Yswiriant Gwladol os nad ydych wedi gallu gwneud gwaith â thâl. Gallwch gael nifer o wahanol fathau o gredydau Yswiriant Gwladol.

Faint o flynyddoedd cymwys sydd eu hangen arnaf?

Mae angen 44 o flynyddoedd cymwys ar ddynion erbyn 65 oed i gael Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth llawn ac mae angen 39 o flynyddoedd cymwys ar ferched sy'n cyrraedd 60 oed cyn 2010. Ond bydd oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar gyfer merched yn newid rhwng 2010 a 2020 felly bydd y nifer o flynyddoedd cymwys fydd eu hangen ar ferched yn cynyddu'n raddol i 44 o flynyddoedd.

Os nad oes gennych y cyfanswm o flynyddoedd cymwys, efallai y gallwch gael canran o Bensiwn sylfaenol y Wladwriaeth llawn o hyd yn dibynnu ar y nifer o flynyddoedd cymwys sydd gennych.

I gael isafswm Pensiwn sylfaenol y Llywodraeth (25%) bydd angen 10 neu 11 o flynyddoedd cymwys arnoch fel arfer. Os ydych fwy na phedwar mis o'ch oedran Pensiwn y Wladwriaeth, gallwch ganfod faint y byddwch yn ei gael drwy wneud cais am Ragolwg Pensiwn y Wladwriaeth

Mae Deddf Pensiynau 2007 wedi lleihau nifer y blynyddoedd cymhwyso sydd eu hangen ar gyfer Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth llawn i 30 o flynyddoedd i bobl sy’n cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar 6 Ebrill 2010 neu ar ôl hynny.

Rhagor o wybodaeth am ddiwygiadau pensiynau

Beth os oes bylchau yn fy nghyfraniadau Pensiwn y Wladwriaeth

Roedd rhai pobl gyrhaeddodd oedran Pensiwn y Wladwriaeth rhwng 6 Ebrill 1998 a 24 Hydref 2004 (yn gynwysedig) yn anymwybodol o’r ffaith fod ganddynt fylchau yn eu cofnod Yswiriant Gwladol rhwng Ebrill 1996 a Mawrth 2002. Roedd hyn oherwydd ataliad y Rhybuddion Diffygiadau ar gyfer y blynyddoedd treth 1996/97 i 2001/02.

Gall y bylchau hyn effeithio ar hawliad budd-daliadau’r wladwriaeth yn cynnwys Pensiwn y Wladwriaeth ac efallai na gynigwyd y cyfle i bensiynwyr dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol.

Os ydych

  • eisoes yn derbyn Pensiwn y Wladwriaeth sylfaenol llawn (£90.70 ar 9 Ebrill 2008)
  • wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth cyn 6 Ebrill 1998 neu ar ôl 24 Hydref 2004

nid ydych yn un o’r cwsmeriaid effeithir gan ataliad y Rhybuddion Diffygiadau.

Cewch ragolwg Pensiwn y Wladwriaeth arlein

Gwelwch os gallwch gael rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth arlein. Bydd hyn yn dweud wrthych faint o Bensiwn y Wladwriaeth sylfaenol a Pensiwn y Wladwriaeth ychwanegol y gallech gael pan rydych yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth.

A allaf gael rhagolwg?

Sut i wneud cais am ragolwg

Cewch ragolwg pensiwn arlein yn syth ewasanaeth Logo e-wasanaeth

Defnyddiwch ein cyfrifianell oedran Pensiwn y Wladwriaeth i gael gwybod pa bryd y byddwch yn gymwys i wneud cais am eich Pensiwn y Wladwriaeth

Cewch wybod sut y gallai’r newidiadau effeithio eich Pensiwn y Wladwriaeth

Os ydych angen rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’r Future Pension Centre (FPC)

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am gyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol ar wefan Cyllid a Thollau EM

Mae’r Ddeddf Pensiynau 2007 yn lleihau y nifer o flynyddoedd cymhwyso mae person sydd yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar neu ar ôl 6 Ebrill 2010 ei angen i gael hawl i Bensiwn Sylfaenol y Wladwriaeth llawn. Os yw hyn yn effeithio arnoch,dylech feddwl yn ofalus cyn talu unrhyw gyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol (Dosbarth 3) pellach.

Faint y byddaf yn ei gael?

Mae Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth ar gyfer 2008/09 yn £90.70 yr wythnos ar gyfer person sengl (yn seiliedig ar eu cofnod Yswiriant Gwladol hwy).

Gallwch gael rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth, a fydd yn dweud wrthych mewn arian heddiw faint o Bensiwn y Wladwriaeth hwyrach y byddwch yn ei gael yn seiliedig ar eich cyfraniadau Yswiriant Gwladol cyn belled, ac hwyrach beth fyddwch yn ei gael pan rydych yn gwneud cais am Bensiwn y Wladwriaeth. Bydd hefyd yn cynnwys manylion o’ch Pensiwn y Wladwriaeth ychwanegol os oes gennych un.

Mae pedair ffordd i gael rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth:

  • Cael rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth ar lein Logo e-wasanaeth
  • Argraffu ffurflen gais a’i hanfon
  • Ffonio Canolfan Pensiwn y Dyfodol ar 0845 300 0168 a byddant yn llenwi’r ffurflen gyda chi dros y ffôn; mae’r llinellau ar agor o 8.00am i 8.00pm dydd Llun i dydd Gwener ac o 9.00am i 1.00pm ar ddydd Sadwrn; codir cyfradddau lleol ar alwadau; efallai y bydd galwadau o ffonau symudol neu rwydweithiau cebl yn amrywio. Os oes gennych anhawsterau clyw neu lleferydd ac mae gennych ffôn testun, galwch ffôn testun 0845 3000 169
  • Ysgrifennu i Ganolfan Pensiwn y Dyfodol a gofyn am ffurflen gais rhagolwg (BR19W) ac amlen ddychwelyd

Y cyfeiriad i anfon eich ffurflenni cais wedi'u cwblhau neu eich llythyrau yw:

Future Pension Centre
The Pension Service
Tyneview Park
Whitley Road
Newcastle upon Tyne
NE98 1BA

Rydym hefyd wedi cyhoeddi canllaw cyffredinol sy'n amlinellu faint y gallech ei gael yn adran ABC y wefan hon.

Gwneud y gorau o fywyd diweddarach

Mae adran Dros 50 gwefan Directgov yn eich cyfeirio i'r cyfeiriad cywir ar gyfer help a chyngor sydd ar gael drwy'r Llywodraeth a mudiadau gwirfoddol.

Mae'n darparu gwybodaeth a manylion cyswllt ar gyfer mudiadau cymunedol a gwirfoddol, cyfleon hyfforddiant a chyngor ar iechyd a ffitrwydd.

Rhagor am Bensiynau'r Wladwriaeth

Gallwch ddarllen ac argraffu, neu archebu copi o Pensiynau'r Wladwriaeth - Eich canllaw o'n canolfan adnoddau.