Agosáu at ymddeol

Cysylltau perthnasol

Pensiynau eraill

Os meddyliwch am Bensiwn sylfaenol y Wladwriaeth fel eich pensiwn cyntaf, bydd unrhyw bensiynau eraill sydd gennych yn cael ei ystyried fel eich pensiwn arall. Gallai'ch pensiwn arall fod yn Bensiwn y Wladwriaeth ychwanegol, neu ryw fath o drefniant preifat fel pensiwn galwedigaethol, pensiwn rhanddeiliaid neu bensiwn personol

Sut gallaf olrhain hen bensiwn?

Os ydych wedi cyfrannu at bensiwn preifat o'r blaen ond wedi colli cysylltiad â'r darparwr pensiwn yna gall y Gwasanaeth Olrhain Pensiynau fel arfer eich helpu drwy ei olrhain ar eich rhan. Gallwch eu ffonio o ddydd Llun i ddydd Gwener o 9am i 5pm ar 0845 6002 537 (Ffôn testun 0845 3000 169).

Sut y byddaf yn derbyn fy mhensiwn arall?

Os oes gennych Bensiwn y Wladwriaeth ychwanegol, gallwch gael hwn pan fyddwch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth. Pan fyddwch yn gwneud cais am eich Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth bydd eich hawliad Pensiwn y Wladwriaeth ychwanegol yn cael ei weithio allan yr un pryd. Telir eich Pensiwn y Wladwiaeth ychwanegol gydag unrhyw Bensiwn sylfaenol y Wladwriaeth y mae gennych hawl iddo.

Os oes gennych bensiwn galwedigaethol, gallech dderbyn pensiwn yn uniongyrchol o'ch cynllun neu efallai y bydd yn rhaid i chi ddefnyddio'r gronfa pensiwn rydych wedi'i chronni i brynu incwm rheolaidd am weddill eich bywyd (gelwir hyn yn flwydd-dal).

Mewn rhai amgylchiadau, gallwch gael rhan o'ch cronfa bensiwn fel cyfandaliad di-dreth. Byddwch yn cael yr arian hwn p'un a ydych yn cael unrhyw Bensiwn y Wladwriaeth ai peidio.

Mae'n syniad da i gael gwybod p'un a delir pensiwn yn uniongyrchol i chi gan eich cynllun (yn cynnwys rhai yr oeddech yn perthyn iddynt yn y gorffennol) neu i weld a oes rhaid i chi brynu blwydd-dal. Byddant wedyn yn gallu rhoi gwybod i chi beth sydd angen i chi ei wneud.

Beth os nad oes gennyf bensiwn arall?

Yn dibynnu ar eich amgylchiadau mae ffyrdd eraill o hyd y gallwch gynyddu'ch incwm cyn i chi ymddeol. Efallai yr hoffech siarad ag ymgynghorydd ariannol i gael rhywfaint o gyngor ar eich opsiynau, ond cofiwch y bydd rhaid i chi dalu am hyn fel arfer.

Beth arall y dylwn i ei wneud?

Dechreuwch drwy ganfod faint o Bensiwn sylfaenol y Wladwriaeth y gallwch ddisgwyl ei gael drwy gael rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth. Bydd y rhagolwg hefyd yn dweud wrthych a fyddwch yn cael unrhyw Bensiwn y Wladwriaeth ychwanegol. Os oes gennych bensiwn preifat, fel pensiwn galwedigaethol, pensiwn rhanddeiliaid neu bensiwn personol, gofynnwch i'ch darparwr pensiwn ddweud wrthych faint y gallwch ddisgwyl ei gael o'r pensiwn hwn pan fyddwch yn ymddeol.

Beth am ragolygon pensiwn cyfunol?

Mae'r llywodraeth yn ymuno â rhai cyflogwyr a darparwyr pensiwn i gynnig rhagolygon pensiwn cyfunol. Bydd y rhagolygon hyn yn rhoi amcangyfrif o'r hyn y gallwch ddisgwyl ei gael o'ch Pensiwn y Wladwriaeth a'ch pensiwn preifat cyfredol. Gofynnwch i'ch cyflogwr neu'ch darparwr pensiwn a ydynt yn cynnig y gwasanaeth hwn.

Beth os byddaf yn credu na fydd gennyf ddigon o arian?

Os ydych yn agosáu at ymddeol ac yn poeni na fydd eich incwm ymddeol yn ddigon ar gyfer eich anghenion, yna edrychwch ar y cymorth ychwanegol y gallai fod hawl gennych ei gael.

Gwneud y gorau o fywyd diweddarach

Mae adran Dros 50 gwefan Directgov yn eich cyfeirio i'r cyfeiriad cywir ar gyfer help a chyngor sydd ar gael drwy'r Llywodraeth a mudiadau gwirfoddol.

Mae'n darparu gwybodaeth a manylion cyswllt ar gyfer mudiadau cymunedol a gwirfoddol, cyfleon hyfforddiant a chyngor ar iechyd a ffitrwydd.

Rhagor am bensiynau eraill

Gallwch ddarllen ac argraffu neu archebu copi o Pensiynau personol - Eich canllaw, Pensiynau galwedigaethol - Eich canllaw neu Pensiynau rhanddeiliaid - Eich canllaw o'n canolfan adnoddau.