Agosáu at ymddeol

Cysylltau perthnasol

Treth ac etifeddu

Rheolau treth

Mae eich trefniadau treth presennol yn debygol o newid pan fyddwch yn ymddeol.

Mae'r rheolau presennol yn golygu pan fyddwch dros 65 oed, efallai y gallwch gael lwfans personol sy'n gysylltiedig ag oedran sy'n fwy hael na'r lwfans personol arferol ar gyfer treth.

Rheolau etifeddu

Hefyd, os oes gennych Bensiwn y Wladwriaeth ychwanegol (pensiwn SERPS cynt, Ail Bensiwn y Wladwriaeth bellach), mae rhywfaint o wybodaeth bwysig y mae angen i chi wybod am etifeddu'r pensiwn hwn.

Y swm uchaf o Ail Bensiwn y Wladwriaeth y gall person ei etifeddu fydd 50% ac mae rheolau arbennig ar gyfer SERPS. Gallwch ddarllen ac argraffu copi o Etifeddu SERPS - Gwybodaeth bwysig ar gyfer pobl briod o'r ganolfan adnoddau neu ddarllen rhagor o wybodaeth ar-lein

Rhagor am reolau treth

Dylech edrych ar y wybodaeth Arian a Threth yn ein hadran ymddeol. Mae'r wybodaeth hon hefyd ar gael yn ein Canllaw i Bensiynwyr. Darllenwch ac argraffwch y Canllaw i Bensiynwyr