Mae cynnydd oedolyn dibynnol yn gynnydd yn eich Pensiwn y Wladwriaeth ar gyfer gwraig, gŵr neu rhywun sydd yn edrych ar ôl eich plant, cyn belled eu bod hi neu ef yn cael eu hystyried i fod yn ddibynnol arnoch yn ariannol.
Os ydych yn ddyn priod, efallai gallwch gael cynnydd yn eich Pensiwn y Wladwriaeth ar gyfer eich gwraig os ydych yn cael rhywfaint o Bensiwn y Wladwriaeth sylfaenol ac nid yw hi yn cael Pensiwn y Wladwriaeth neu unrhyw fudd-dal y wladwriaeth arall ei hun. P’un ai rydych chi yn cael y cynnydd hefyd yn dibynnu ar os oes ganddi enillion neu bensiwn galwedigaethol neu bensiwn personol uwch swm penodedig.
Os ydych yn wraig briod, efallai gallwch gael cynnydd yn eich Pensiwn y Wladwriaeth ar gyfer eich gwr os oeddech yn cael Budd-dal Anallogrwydd ar ei gyfer ef cyn i chi gael hawliad i’ch Pensiwn y Wladwriaeth. P’un ai rydych yn cael y cynnydd hefyd yn dibynnu ar y swm o’r enillion (yn cynnwys pensiwn galwedigaethol) os oes rhywfaint, a rhywfaint o fudd-dal mae’n ei dderbyn.
Os oes unrhyw un yn edrych ar ôl eich plant, efallai gallwch gael cynnydd mewn Pensiwn y Wladwriaeth i’r person hwnnw, yn dibynnu ar p’un ai rydych yn cael Pensiwn y Wladwriaeth sylfaenol a’i peidio a p’un ai rydych â hawl (neu cael eich trin fel bod gennych hawl), i Fudd-dal Plant ar gyfer y plentyn. Efallai bydd unrhyw enillion sydd gan y person sydd yn edrych ar ôl eich plentyn yn effeithio ar swm y cynnydd rydych yn ei dderbyn.
O Ebrill 2010, ni fydd hi’n bosib i hawlio codiad i’ch Pensiwn y Wladwriaeth ar gyfer oedolyn arall. Os ydych eisoes â hawl i’r codiad ar 5 Ebrill 2010, byddwch yn gallu ei gadw hyd nes ydych yn cyfarfod yr amodau ar gyfer y cynnydd neu tan 2010, pru’n bynnag yw’r cyntaf.
Os ydych yn gwneud cais am eich Pensiwn y Wladwriaeth ar neu ar ol 6 Ebrill 2010, ni fyddwch yn gallu gwneud cais am godiad ar gyfer oedolyn sydd yn dibynnu arnoch yn ariannol pan rydych yn gwneud eich cais am eich Pensiwn y Wladwriaeth. Mae hyn oherwydd ni allwch wneud cais am y codiad hwn cyn i chi ddechrau hawlio eich Pensiwn y Wladwriaeth.
Os hoffech gael mwy o wybodaeth ar gynnydd oedolyn dibynnol cysylltwch a’ch canolfan bensiwn