ABC

Diogelwch Cyfrifoldebau Cartref

Beth ydyw?

  • Nid yw Diogelwch Cyfrifoldebau Cartref yn fudd-dal, ond yn gynllun sy'n eich helpu i ddiogelu eich Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth
  • Gallech gael pensiwn ychwanegol hefyd drwy Ail Bensiwn y Wladwriaeth
  • Os nad ydych yn gweithio neu os yw'ch enillion yn isel a'ch bod yn gofalu am rywun, efallai y gallwch gael Diogelwch Cyfrifoldebau Cartref
  • O fis Ebrill 2003, mae Diogelwch Cyfrifoldebau Cartref hefyd ar gael i ofalwyr maeth cofrestredig.

Allaf i ei gael?

Ydych chi'n cael:

Os byddwch yn cael un o'r uchod, dylech gael Diogelwch Cyfrifoldebau Cartref yn awtomatig.

Neu a ydych:

  • yn treulio o leiaf 35 awr yr wythnos yn rheolaidd yn edrych ar ôl rhywun sy'n cael Lwfans Gweini, Lwfans Byw i Bobl Anabl ar y gyfradd ganol neu uwch ar gyfer gofal personol, neu Lwfans Gweini Cyson? (Bydd y cysylltiadau hyn yn mynd a chi i wefan yr Directgov.)
  • yn ofalwr maeth cofrestredig drwy gydol blwyddyn treth gyfan a dim yn cael Budd-dal Plant ac nid mewn gwaith a thâl, neu heb fod yn ennill digon mewn blwyddyn dreth i gyfrif tuag at Bensiwn y Wladwriaeth sylfaenol (llai na £4,940 yn y flwyddyn dreth 2009/10).

Os ydych yn ateb YDW i un neu'r ddau o'r cwestiynau uchod, dylech wneud cais am HRP.

Os nad oeddech yn cael HRP oherwydd fod eich partner yn hawlio Budd-dal Plant.

Yn arferol y person sydd yn aros gartref i edrych ar ôl y plant yw'r un sydd yn hawlio Budd-dal Plant ac yn cael HRP. Ond, os oedd eich partner yn hawlio Budd-dal Plant ac nid oedd angen HRP oherwydd eu bod yn gweithio ac yn talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol, gallwch ofyn i'r HRP gael ei drosglwyddo i chi.

Gallwch wneud hyn os.

  • ydych yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwwriaeth ar neu ar ôl 6 Ebrill 2008.
  • roeddech yn byw gydach partner ac yn rhannu gofal ar gyfer plentyn o dan 16
  • roedd eich partner yn hawlio Budd-dal Plant
  • nid yw eich partner angen HRP oherwydd eu bod wedi talu digon o gyfraniadau yn y flwyddyn i gyfrif tuag at eu Pensiwn y Wladwriaeth
  • byddech wedi gallu cael Budd-dal Plant os na fuasai eich partner wedi hawlio.

Bydd angen i chi gwblhau y ffurflen CF411 i wneud cais am yr HRP i gael ei drosglwyddo i chi.

Beth arall y dylwn ei wybod?

Os ydych yn cael Lwfans Gofalwr byddwch yn cael credydau YG a ni fydd angen Diogelwch Cyfrifioldebau Cartref arnoch fel arfer. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am Lwfans Gofalwr ar wefan Directgov

Os ydych yn ferch, ni allwch gael Diogelwch Cyfrifoldebau Cartref am unrhyw flwyddyn y mae hawl gennych i dalu cyfraniadau YG is ar gyfer merched priod a merched gweddw, tra'ch bod yn gweithio.

Mae Diogelwch Cyfrifoldeb Cartref yn helpu i ddiogelu Budd-daliadau Profedigaeth ar gyfer eich gwr neu wraig. Mae gwybodaeth am y ddau fudd-dal hyn ar gael ar wefan yr Directgov.

Sut ydw i'n gwneud cais?

I hawlio Diogelwch Cyfrifoldebau Cartref, rydych angen cysylltu â'ch swyddfa Canolfan Byd Gwaith leol i gael taflen ‘Sut i ddiogelu eich Pensiwn y Wladwriaeth os ydych yn edrych ar ôl am rhywun yn y cartef', a ffurflen gais CF411W.

Cysylltwch â Canolfan Byd Gwaith

Neu gallwch lawrlwytho y ffurflen gais CF411 o wefan Cyllid a Thollau EM.


Lawrlwythwch y ffurflen gais Diogelwch Cyfrifoldebau Cartref (PDF.89K)

Help Pensiwn ychwanegol o 2002. O fis Ebrill 2002, diwygiodd Ail Bensiwn y Wladwriaeth Bensiwn y Wladwriaeth ar sail Enillion (SERPS). Yn arbennig, am y tro cyntaf, gallai pobl nad oeddent yn gweithio, neu a oedd yn ennill ychydig iawn, gael pensiwn ychwanegol, os oeddent drwy gydol blwyddyn gymwys:

  • yn cael Budd-dal Plant ar gyfer plentyn o dan 6 oed
  • i gael Lwfans Gofalwr neu
  • yn cael Diogelwch Cyfrifoldebau Cartref am eu bod yn gofalu am berson sâl neu anabl.

I gael rhagor o wybodaeth, gweler Pensiwn y Wladwriaeth Ychwanegol.

Sut ydw i'n gwneud cais os ydw i'n ofalwr maeth?

Os ydych yn ofalwr maeth cofrestredig bydd angen i chi hefyd lenwi'r ffurflen CF411W a hefyd ddangos eich bod wedi bod yn ofalwr maeth cofrestredig drwy gydol y flwyddyn dreth o 6 Ebrill 2003 i 5 Ebrill 2004. Bydd angen i chi ddarparu llythyr cadarnhau gan yr awdurdod lleol neu'r asiantaeth rydych yn gweithio iddi, yn cadarnhau eich bod wedi bod yn ofalwr maeth cymeradwy drwy gydol y flwyddyn dreth lawn.

Pryd y mae angen i mi wneud cais?

Mae Diogelwch Cyfrifoldebau Cartref wedi bod ar gael ar gyfer blynyddoedd treth llawn o fis Ebrill 1978.

Os ydych yn gwneud cais am Ddiogelwch Cyfrifoldebau Cartref ar gyfer y blynyddoedd rydych wedi'u treulio yn gofalu am rywun sydd â salwch hirdymor neu anabledd rhwng mis Ebrill 1978 a 5 Ebrill 2002, gallwch wneud cais ar unrhyw adeg hyd at oedran Pensiwn y Wladwriaeth. Ond byddai'n well os na arhoswch yn rhy hir cyn gwneud cais gan ei fod weithiau'n mynd yn fwy anodd cofio manylion am yr hyn roeddech yn ei wneud wrth i amser fynd ei flaen.

Ers mis Ebrill 2002, mae rheol newydd wedi bod mewn grym. Mae hyn yn golygu, o fis Ebrill 2002 ymlaen, bod rhaid i chi wneud cais am unrhyw Ddiogelwch Cyfrifoldebau Cartref sydd ei angen arnoch o fewn tair blynedd o ddiwedd unrhyw flwyddyn dreth y gwnaethoch ei threulio yn gofalu am rywun sydd â salwch hirdymor neu anabledd.

Dim ond ar gyfer gofalu a ddigwyddodd yn ystod neu wedi'r flwyddyn dreth 2002/2003 mae'r terfyn amser hwn yn gymwys. Os ydych wedi edrych ar ôl rhywun trwy gydol y flwyddyn dreth 2002/2003, y dyddiad hwyraf y gallech fod wneud cais am Ddiogelwch Cyfrifoldebau Cartref oedd 5 Ebrill 2006.

Darllenwch neu argraffwch gopi o Pensiynau'r Wladwriaeth ar gyfer gofalwyr a rhieni (PM9) i ddarganfod beth i'w wneud nesaf

Os cewch Ddiogelwch Cyfrifoldebau Cartref yn awtomatig, er enghraifft drwy Gymhorthdal Incwm neu Fudd-dal Plant, nid yw'r rheol newydd yn berthnasol i chi gan nad oes angen i chi wneud cais.

If you are a registered foster carer, you can fill in form CF411 at any time after the end of the tax year but you will probably find it more convenient to do this at an earlier opportunity.

Beth sy'n newid o 2010?

Os byddwch yn cyrraedd oedran pensiwn y wladwriaeth ar 6 Ebrill 2010 neu ar ôl hynny, bydd cyfnodau lle y byddwch wedi cael Diogelwch Cyfrifoldebau Cartref cyn hyn yn cael eu troi yn gredydau.

O fis Ebrill 2010, gallech gael eich credydu â chyfraniadau ar gyfer cyfnodau pan oeddech yn:

  • cael Budd-dal Plant i blentyn o dan 12 oed
  • gofalu am rywun sâl neu anabl am o leiaf 20 awr
  • gofalwr maeth cymeradwy

Beth fydd yn digwydd os?

Byddaf yn mynd i'r ysbyty neu mae rhywun ryw'n gwneud cais ar eu cyfer yn mynd i'r ysbyty?

Mae'n rhaid i chi ddweud wrthym cyn gynted ag yr ewch i mewn i'r ysbyty neu ddod allan ohono. Mae'n rhaid i chi hefyd ddweud wrthym os bydd rhywun rydych yn cael budd-dal ar eu cyfer yn mynd i mewn i'r ysbyt.

Byddaf yn mynd i ganolfan breswyl neu gartref nyrsio?

Efallai y caiff eich Diogelwch Cyfrifoldebau Cartref ei effeithio os byddwch chi neu'r person rydych yn gofalu amdanynt yn mynd i ofal neu gartref.

Rhagor o wybodaeth

Cysylltu â'r Gwasanaeth Pensiwn

Help arall

Gallwch wneud cais am Ragolwg Pensiwn y Wladwriaeth
Budd-dal Plant (Bydd hwn yn mynd â chi i wefan Cyllid a Thollau EM)
Lwfans Gofalwr (Bydd hwn yn mynd â chi i wefan yr Directgov)
Cymhorthdal Incwm (Bydd hwn yn mynd â chi i ar wefan yr Ganolfan Byd Gwaith)
Credyd Pensiwn

Cofiwch mai canllaw cyffredinol i fudd-daliadau a chynlluniau yn unig yw'r wefan hon, ac nid yw'n ddatganiad llawn ac awdurdodedig o'r gyfraith.