Os mai YDW yw'r ateb i'r cwestiynau hyn i gyd, gwnewch gais am Gymhorthdal Incwm
(I weld a ydych ar incwm isel ar gyfer Cymhorthdal Incwm neu os nad ydych yn siwr am effaith eich cynilion, cysylltwch â'r Gwasanaeth Pensiwn)
Os ydych wedi dod o dramor neu ddychwelyd o dramor yn ddiweddar, gallwch edrych ar wefan yr Adran Gwaith a Phensiynau i gael rhywfaint o reolau ychwanegol y gallai fod yn berthnasol i chi.
Efallai y gallwch gael Cymhorthdal Incwm hyd yn oed os ydych yn cael help gan eich adran gwasanaethau cymdeithasol, ond byddant yn ei gyfrif pan fyddant yn gweithio allan faint mae'n rhaid i chi ei dalu tuag at y ffioedd.
Arosiadau parhaol mewn cartref
Arosiadau dros dro mewn cartref
Gwnewch gais ar unwaith. Os byddwch yn oedi gallech golli budd-dal. Cysylltwch â'r Gwasanaeth Pensiwn i wneud cais. Mae'n bwysig ein bod yn gallu bod yn siwr pwy ydych chi pan fyddwch yn gwneud cais. Efallai y bydd angen i ni ofyn am eich cefndir ac edrych ar unrhyw ddogfennau swyddogol sydd gennych i ategu'r wybodaeth a roddwch.
Byddaf yn mynd i'r ysbyty neu mae rhywun rwy'n gwneud cais ar eu cyfer yn mynd i'r ysbyty?
Mae'n rhaid i chi ddweud wrth Y Gwasanaeth Pensiwn cyn gynted ag yr ewch i mewn i'r ysbyty neu ddod allan ohono. Mae'n rhaid i chi hefyd ddweud wrthym os bydd rhywun rydych yn cael budd-dal ar eu cyfer yn mynd i mewn i'r ysbyty neu'n dod allan ohono.
Unwaith y byddwch yn mynd i mewn i'r ysbyty
Os byddwch yn mynd i mewn i'r ysbyty o gartref gofal preswyl cyngor lleol,
bydd eich Cymhorthdal Incwm fel arfer yn gostwng i £15.10.
Ar ôl 4 wythnos
Os oes gennych bartner ac yn cael Premiwm Anabledd Difrifol, bydd hwn
fel arfer yn lleihau i £42.25 yr wythnos. Os nad oes gennych bartner,
bydd eich Premiwm Anabledd Difrifol yn dod i ben.
Ar ôl 6 wythnos
Byddwch yn dal i gael unrhyw help gyda chostau tai y mae gennych hawl
iddo ac unrhyw arian a delir oherwydd bod gennych blant dibynnol. Mae
hwn yn cynnwys y Premiwm Teulu.
Os ydych yn sengl neu'n rhiant unigol, bydd y Cymhorthdal Incwm a delir i chi yn gostwng i £18.90 yr wythnos.
Os oes gennych bartner a bod un ohonoch yn yr ysbyty, bydd eich Cymhorthdal Incwm yn gostwng i £15.10 yr wythnos.
Os ydych chi a'ch partner yn yr ysbyty, bydd y Cymhorthdal Incwm a delir i chi a'ch partner yn gostwng i £37.80 yr wythnos.
Ar ôl 12 wythnos
Os cewch arian ychwanegol ar gyfer person dibynnol sydd yn yr ysbyty,
bydd yr arian ychwanegol yn gostwng i £15.10 yr wythnos.
Os cewch help gyda chostau tai, byddwn yn edrych arnynt i weld a ddylent barhau. Byddwn yn gwneud hyn bob 12 wythnos os byddwch yn dal yn yr ysbyty.
Ar ôl 52 wythnos
Os ydych yn sengl neu'n rhiant unigol nad ydym bellach yn eich trin fel
person sy'n gyfrifol am eich plant, bydd eich Cymhorthdal Incwm yn gostwng
i £15.10 yr wythnos.
Os ydych yn sengl neu'n rhiant unigol nad ydym bellach yn eich trin fel person sy'n gyfrifol am eich plant, bydd eich Cymhorthdal Incwm yn gostwng i £15.10 yr wythnos.
Efallai y bydd eich Cymhorthdal Incwm yn lleihau fwy os bydd y bobl sy'n gofalu amdanoch yn credu nad ydych yn gwneud defnydd llawn o'r arian hwn bob wythnos. Bydd unrhyw arian ychwanegol a gewch ar gyfer costau tai yn dod i ben.
Os ydych chi neu'ch partner yn yr ysbyty, bydd angen i'r ddau ohonoch wneud cais ar wahân am Gymhorthdal Incwm. Bydd cais eich partner yn cael ei weithio allan ar wahân.
Byddaf yn mynd dramor i fyw neu'n ymweld â gwlad dramor?
Rhowch wybod i ni cyn gynted ag y gallwch eich bod yn mynd dramor. Gallwch wneud hyn fel arfer drwy gysylltu â'r Gwasanaeth Pensiwn.
Os ydych yn mynd dramor yn barhaol, ni allwch gael Cymhorthdal Incwm.Os yw'ch arhosiad dramor yn un dros dro, efallai y gallwch gael Cymhorthdal Incwm am y 4 wythnos gyntaf y byddwch dramor.
Dim ond os bydd yn annhebygol y byddwch dramor am fwy na 52 wythnos, y byddech yn dal i fod yn gymwys i gael Cymhorthdal Incwm pe byddwch wedi aros yn y Deyrnas Unedig, a bod un o'r canlynol yn berthnasol i chi y gallwch wneud hyn:
Efallai y byddwch yn gallu cael Cymhorthdal Incwm am yr 8 wythnos gyntaf os:
Effeithir ar y rhan fwyaf o fudd-daliadau os byddwch yn mynd dramor. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am rai gwledydd drwy wefan yr Adran Gwaith a Phensiynau.
Rwy'n rhan o deulu'r lluoedd arfog sy'n byw dramor neu sy'n ymweld â gwlad dramor?
Mae'r rheolau ar gyfer mynd dramor yr un fath ag unrhyw un arall sy'n mynd dramor. Gweler uchod.
Byddaf yn dechrau gweithio ond bydd fy salwch neu anabledd yn golygu y bydd rhaid i mi roi'r gorau iddo eto?
Os byddwch yn dechrau gweithio ond yn gorfod rhoi'r gorau iddo o fewn 52 wythnos oherwydd eich salwch neu anabledd, efallai y gallech fynd yn ôl i gael Cymhorthdal Incwm ar yr un swm ag yr oeddech yn ei gael cyn dechrau gweithio.
Er mwyn gallu gwneud hyn:
Mae'n rhaid i chi roi gwybod i'ch swyddfa nawdd cymdeithasol eich bod wedi dechrau gwaith neu hyfforddiant o fewn mis o'r dyddiad y gwnaethoch ddechrau.
Ni allwch gael diogelwch os daeth eich budd-dal i ben oherwydd prawf meddygol.
Byddaf yn dechrau gwaith gwirfoddol?
Gallwch wneud cymaint o waith gwirfoddol ag yr hoffech. Ni effeithir ar eich Cymhorthdal Incwm ar yr amod nad ydych yn cael unrhyw dâl arall heblaw'r tâl am dreuliau fel costau teithio neu ddillad arbennig sydd eu hangen arnoch ar gyfer y gwaith gwirfoddol.
Ni effeithir ar eich Cymhorthdal Incwm os yw'n rhesymol i'r person neu'r sefydliad rydych yn gwneud y gwaith gwirfoddol iddo beidio â'ch talu.
Os yw'n afresymol i beidio â'ch talu, byddwn yn gostwng eich Cymhorthdal Incwm gan swm y gallech ddisgwyl cael eich talu ar gyfer y gwaith a wnewch, er nad ydych yn cael eich talu.
Mae'n rhaid i chi ddweud wrth Y Gwasanaeth Pensiwn os ydych yn gwneud unrhyw waith gwirfoddol. Mae'n rhaid i chi hefyd ddweud wrthym os cewch eich talu mewn unrhyw ffordd. Mae hyn yn cynnwys pethau a elwir weithiau yn daliad mewn nwyddau. Gallai hyn fod yn rhywbeth fel talebau bwyd.
Gallwch ddarllen neu argraffu'r daflen Help os ydych yn byw mewn cartref gofal preswyl neu gartref nyrsio [GL15W] - [ffeil PDF 75kb] o wefan yr Adran Gwaith a Phensiynau.
Cysylltwch â'r Gwasanaeth Pensiwn i gael rhagor o wybodaeth neu i archebu taflenni.
Rhagor o wybodaeth am ffeiliau PDF
Cartref gofal preswyl
neu gartref nyrsio
Lwfans
Byw i'r Anabl ar wefan yr Directgov
Lwfans
Gweini ar wefan yr Directgov
Lwfans
Gofalwr ar wefan yr Directgov
Budd-dal
Tai ar wefan yr Adran Gwaith a Phensiynau
Budd-dal
Treth Gyngor ar wefan yr Adran Gwaith a Phensiynau
Credyd Pensiwn
Mae’r Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE) yn cynnwys holl wledydd y Gymuned Ewropeaidd (CE): Awstria, Gwlad Belg, y Weriniaeth Siec, Cyprus, Denmarc, Estonia, y Ffindir, Ffrainc, yr Almaen, Groeg, Hwngari, yr Eidal, Latfia, Lithwania, Lwcsembwrg, Malta, yr Iseldiroedd, Gwlad Pwyl, Portiwgal, Gweriniaeth Iwerddon, y Weriniaeth Slofacia, Slofenia, Sbaen, Sweden, a’r DU, yn ogystal â Gwlad yr Iâ, Leichtenstein a Norwy.
Ystyr y DU yw Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon ond nid Ynysoedd y Sianel nac Ynys Manaw.
Ystyr Prydain Fawr yw Cymru, Lloegr a’r Alban.
Cofiwch mai canllaw cyffredinol i fudd-daliadau a chynlluniau yn unig yw’r wefan hon ac nid yw’n ddatganiad llawn ac awdurdodedig o’r gyfraith.