Gwasanaeth Olrhain Pensiwn
Os credwch fod gennych hen bensiwn, ond nad ydych yn siwr o’r
manylion, gall y Gwasanaeth Olrhain Pensiwn fel arfer eich helpu i’w
olrhain i chi, am ddim.
Rydym angen gwybod o leiaf enw eich cyn gyflogwr neu gynllun
pension.
Os gallwch roi ychwaneg o wybodaeth bydd gennym well siawns o gael hyd
i gyswllt presennol a chyfeiriad i’r cynllun.
Dylai gymryd tua 15 munud i gwblhau’r ffurflen hon.
Os buasai’n well gennych olrhain eich cynllun pensiwn drwy ffonio
neu bost, gallwch:
- Rhoi eich enw a rhif ffon i ni ar y ffurflen
syml hon a bydd aelod
o’r tim yn eich ffonio ac yn cynnal yr olrhain ar eich cyfer.
- Cysylltwch â ni ar 0845 6002 537 a gallwn olrhain eich cynllun
pensiwn dros y ffôn, neu ofyn am ffurflen gais. Mae llinellau yn
agored dydd Llun i ddydd Gwener 8.00am i 6.00p.m.
- Ysgrifennu atom i:
Pension Tracing Service
The Pension Service
Tyneview Park
Whitley Road
Newcastle upon Tyne
NE98 1BA
Beth sydd angen arnom gennych?
Rydym angen gwybod o leiaf enw eich cyn gyflogwr neu gynllun pensiwn.
Os gallwch roi’r gwybodaeth canlynol bydd gennym well siawns o
gael hyd i gyswllt presennol a chyfeiriad i’r cynllun.
- Enw a chyfeiriad llawn y cyflogwr a redodd y cynllun pensiwn galwedigaethol
rydych yn ceisio ei olrhain. A wnaeth y cyflogwr newid enwau, neu a
oedd yn rhan o grwp mwy o gwmnïau?
- Y math o bensiwn roeddech yn perthyn iddo. Er enghraifft a oedd yn
gynllun pensiwn galwedigaethol, cynllun pensiwn personol neu gynllun
pensiwn personol grwp?
- Pryd roeddech yn perthyn i'r cynllun pensiwn hwn?
I gynlluniau pensiwn galwedigaethol:
- A oedd y cyflogwr yn masnachu o dan enw gwahanol?
- Pa fath o fusnes roedd y cyflogwr yn ei redeg?
- A wnaeth y cyflogwr newid cyfeiriad ar unrhyw adeg
I gynlluniau pensiwn galwedigaethol:
- Beth oedd enw'r cynllun pensiwn personol?
- O ba gyfeiriad y cafodd ei redeg?
- Beth oedd enw'r cwmni yswiriant a oedd yn ymwneud â'r cynllun pensiwn
personol?