ABC

Pensiynau personol

Beth ydyw?

Gelwir pensiwn personol hefyd yn bensiwn preifat. Fe'i darperir gan gwmnïau pensiynau a'i fwriad yw rhoi ail bensiwn i chi i'ch helpu i gael ymddeoliad diogel.

A allaf ei gael?

Os na allwch, neu os nad ydych, yn talu i mewn i gynllun pensiwn galwediagethol, efallai yr hoffech feddwl am bensiwn personol.

Beth arall y dylwn ei wybod?

Efallai y gallwch gyfrannu at bensiwn personol neu bensiwn rhanddeiliaid yn ogystal â phensiwn galwedigaethol. Bydd hyn yn dibynnu ar eich incwm a'r swm o gyfraniadau rydych yn ei dalu ar hyn o bryd.

Gellir talu'r pensiynau hyn yn ogystal â Phensiwn sylfaenol y Wladwriaeth.

Gallwch ddefnyddio pensiwn personol i eithrio o Bensiwn y Wladwriaeth Ychwanegol.

Faint y gallaf ei gael?

Mae faint y byddwch yn ei gael yn dibynnu ar eich cynllun pensiwn a'r taliadau rydych wedi'u gwneud i mewn iddynt.

Rhagor o wybodaeth

Bydd y cwmni sy'n rhedeg eich cynllun pensiwn yn ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych ynglyn ag ef.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth o gyfresi o daflenni DWP sydd i gyd yn ymwneud â phensiynau. Gallwch gael y taflenni hyn drwy ffonio llinell archebu'r Llinell Bensiynau ar 0845 7 31 32 33, neu drwy ysgrifennu at:

DWP Pensions
Freepost BS5555/1
Bristol
BS99 1BL

Edrychwch ar ein hadran cynllunio ymlaen llaw i gael rhagor o wybodaeth am sut i gynllunio ar gyfer ymddeoliad. Gweler ein hadran cysylltiadau i gael rhagor o gysylltiadau i wybodaeth ddefnyddiol am bensiynau personol

Mae gwefan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol yn cynnig gwybodaeth gyffredinol am wasanaethau a chynnyrch ariannol. Neu ffoniwch eu llinell gymorth ar 0845 606 1234. Mae'r llinellau ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener o 8am i 8pm. Codir cyfraddau lleol ar alwadau.

Mae gwybodaeth am Gredyd Pensiwn ar gael ar-lein yn ein hadran Credyd Pensiwn.

Gwnewch gais am ragolwg pensiwn i ganfod faint o Bensiwn y Wladwriaeth y gallwch ei ddisgwyl ar ôl ymddeol.

Mathau eraill o help

Pensiynau galwedigaethol

Pensiwn y Wladwriaeth

Lwfans Ceisio Gwaith (Bydd y cyswllt hwn yn mynd â chi i wefan y Ganolfan Byd Gwaith)

Cymhorthdal Incwm (Bydd y cyswllt hwn yn mynd â chi i wefan y Ganolfan Byd Gwaith)

Cofiwch mai canllaw cyffredinol i fudd-daliadau a chynlluniau yn unig yw'r wefan hon ac nid yw'n ddatganiad llawn ac awdurdodedig o'r gyfraith.