ABC

Cartrefi gofal

Mynd i gartref gofal

Os oes angen i chi fyw mewn cartref a bod angen help ariannol arnoch, dylech gysylltu yn gyntaf ag Adran Gwasanaethau Cymdeithasol eich awdurdod lleol (eich Adran Gwaith Cymdeithasol, yn yr Alban). Os byddant yn penderfynu mai mynd i gartref gofal yw'ch opsiwn gorau, byddant yn:

  • helpu i ddewis y cartref gofal sydd orau i chi
  • gweithio allan a allwch fforddio talu tuag at gost y cartref
  • trefnu talu ffioedd y cartref os na allwch fforddio eu talu eich hun.

Sut ydw i'n talu fy nghostau gofal?

Os oes gennych gynilion dros swm penodol, bydd disgwyl i chi dalu cost lawn y cartref. Bydd eich Adran Gwasanaethau Cymdeithasol yn gallu dweud wrthych beth yw eu cyfyngiadau cynilion. Os byddant yn eich helpu gyda'r costau, bydd gennych swm o arian bob wythnos tuag at eich costau personol fel eitemau ymolchi a dillad.

Os byddwch yn dewis mynd i gartref sy'n ddrytach na'r hyn y bydd y Gwasanaethau Cymdeithasol yn ei dalu, bydd angen i chi ddod o hyd i ffordd o dalu'r gwahaniaeth. Weithiau gall y GIG ariannu lle mewn cartref gofal ac ni fydd yn rhaid i chi dalu.

Rhagor o wybodaeth

Gallwch ddarllen neu argraffu'r daflen Help os ydych yn byw mewn cartref gofal (GL15W) o wefan yr Adran Gwaith a Phensiynau Os bydd angen rhagor o wybodaeth arnoch am help gan eich adran gwasanaethau cymdeithasol neu, yn yr Alban, eich adran gwaith cymdeithasol, gallwch ddod o hyd i'w cyfeiriad yn y llyfr ffôn. Edrychwch o dan enw eich Cyngor Sir, Cyngor Bwrdeistref neu mewn rhai ardaloedd, Awdurdod Unedol newydd, neu Fwrdeistref Llundain. Os ydych yn byw yn yr Alban, edrychwch o dan eich Cyngor Rhanbarthol neu Ynys.

Help arall

Lwfans Byw i'r Anabl ar wefan yr Directgov
Lwfans Gweini ar wefan yr Directgov
Lwfans Gofalwr ar wefan yr Directgov
Lwfans Tai ar wefan yr Adran Gwaith a Phensiynau
Budd-dal Treth Gyngor ar wefan yr Adran Gwaith a Phensiynau
Credyd Pensiwn

Cofiwch mai canllaw cyffredinol i fudd-daliadau a chynlluniau yn unig yw'r wefan hon ac nid yw'n ddatganiad llawn ac awdurdodedig o'r gyfraith.