Pensiwn Sylfaenol y Wladwriaeth
Telir Pensiwn y Wladwriaeth i bobl gymwys sy'n gwneud cais amdano ar ôl cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth. Mae'n seiliedig ar gyfraniadau Yswiriant Gwladol (YG) ac mae'n cynnwys elfennau gwahanol. Mae rhagor o wybodaeth am gyfraniadau YG ar gael ar wefan Cyllid a Thollau EM.
Mae rhagor o wybodaeth am gyfraniadau YG ar gael ar wefan Cyllid a Thollau EM
Oedran Pensiwn y Wladwriaeth
65 oed yw oedran Pensiwn y Wladwriaeth i ddynion a 60 oed i ferched. Bydd oedran Pensiwn y Wladwriaeth i ferched yn codi'n raddol o 2010, felly bydd yn 65 oed erbyn 2020.
Ni fydd y cynnydd yn oedran Pensiwn y Wladwriaeth yn effeithio ar ferched a anwyd ar 5 Ebrill 1950 neu cyn hynny. Bydd gan ferched a anwyd rhwng 6 Ebrill 1950 a 5 Ebrill 1955 (gan gynnwys y dyddiadau hynny) oedran Pensiwn y Wladwriaeth rhwng 60 oed a 65 oed. Bydd gan ferched a anwyd ar 6 Ebrill 1955 neu ar ôl hynny a chyn 6 Ebrill 1959 oedran Pensiwn y Wladwriaeth o 65 oed.
Bydd oedran Pensiwn y Wladwriaeth i ddynion a merched yn codi o 65 oed i 68 oed rhwng 2024 a 2046 gyda phob newid yn cael ei gyflwyno fesul cam dros ddwy flynedd yn olynol ym mhob degawd. Bydd y cynnydd cyntaf, o 65 oed i 66, yn cael ei gyflwyno fesul cam rhwng mis Ebrill 2024 a mis Ebrill 2026; yr ail, o 66 oed i 67 oed, rhwng mis Ebrill 2034 a mis Ebrill 2036; a'r trydydd, o 67 oed i 68 oed, rhwng mis Ebrill 2044 a mis Ebrill 2046.
Bydd ein cyfrifiannell oedran Pensiwn y Wladwriaeth yn dweud wrthych y dyddiad y byddwch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth.
Beth arall y dylwn ei wybod?
Mae'r Ddeddf Pensiynau 2007 wedi gwneud newidiadau i system Pensiynau'r Wladwriaeth.
Darganfyddwch mwy am ddiwygio Pensiynau
Os ydych yn ferch briod ac na allwch gael Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth llawn am nad oes gennych ddigon o flynyddoedd cymwys yn seiliedig ar eich cyfraniadau Yswiriant Gwladol (YG) eich hun, efallai y gallwch gael Pensiwn y Wladwriaeth yn seiliedig ar gyfraniadau YG eich gŵr. Dim ond os ydyw eisoes yn cael Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth a'ch bod chi yn 60 oed neu'n hŷn y gallwch gael hwn.
Os ydych yn wraig weddw, yn _r gweddw neu'n bartner sifil sy'n goroesi, efallai y gallech hefyd gael Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth yn seiliedig ar gyfraniadau YG eich diweddar ŵr, gwraig neu bartner sifil.
Os ydych eisoes yn wraig weddw, gŵr gweddw neu barter sifil sy'n goroesi gallwch gael hyd at 100% o Bensiwn ychwanegol y Wladwriaeth eich diweddar ŵr, gwraig neu bartner sifil.
Os cyrhaeddodd eich gŵr neu wraig neu bartner sifil oedran Pensiwn y Wladwriaeth cyn 6 Hydref 2002, byddwch yn cael hyd at 100% o'u pensiwn SERPS neu Bensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth pan fyddant farw.
Os disgwylir i'ch gŵr, gwraig neu bartner sifil gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar ôl 5 Hydref 2002 ond cyn 6 Hydref 2010, os byddant yn marw o'ch blaen, byddwch yn cael uchafswm o rhwng 90% a 60% o'u pensiwn SERPS. Bydd yr union swm yn dibynnu ar pryd, yn ystod y cyfnod hwn, y byddant yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth.
Os disgwylir i'ch gŵr neu wraig gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar 6 Hydref 2010 neu ar ôl hynny, byddwch yn cael hyd at 50% o'u pensiwn SERPS os byddant farw o'ch blaen.
Yr uchafswm o Bensiwn ychwanegol y Wladwriaeth a gronnir ar ôl 6 Ebrill 2002 o dan Ail Bensiwn y Wladwriaeth y gall gŵr, gwraig neu bartner sifil sy'n goroesi ei etifeddu fydd 50%.
Mae rhagor o wybodaeth am etifeddu pensiynau SERPS ar gael ar y wefan hon.
Os ydych wedi ysgaru neu os yw eich partneriaeth sifil wedi'i diddymu ac na allwch gael Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth yn seiliedig ar y blynyddoedd cymhwyso o'ch cyfraniadau YG eich hun, efallai y gallech gael Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth yn seiliedig ar gyfraniadau YG eich cyn ŵr, gwraig neu bartner sifil. Nid oes rhaid eu bod hwy'n cael eu Pensiwn y Wladwriaeth.
Os byddwch yn parhau i weithio ar ôl hawlio eich Pensiwn y Wladwriaeth, ni fydd eich enillion yn effeithio ar faint o Bensiwn y Wladwriaeth a gewch. Ond os byddwch yn cael cynnydd ar gyfer person dibynnol, gallai eu henillion effeithio ar faint o gynnydd a gewch ar eu cyfer.
Os byddwch yn oedi cyn gwneud cais am eich Pensiwn y Wladwriaeth am o leiaf bum wythnos pan fyddwch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth, gallwch ennill Pensiwn y Wladwriaeth ychwanegol. Bydd swm wythnosol eich Pensiwn y Wladwriaeth yn uwch, ond ni fyddwch yn cael unrhyw Bensiwn y Wladwriaeth am yr wythnosau y byddwch yn oedi cyn gwneud cais.
O fis Ebrill 2005, os byddwch yn oedi cyn gwneud cais am eich Pensiwn y Wladwriaeth ychwanegol am o leiaf 12 mis, gallech ddewis rhwng pensiwn wythnosol ychwanegol ac un cyfandaliad trethadwy pan fyddwch yn gwneud cais yn y pen draw.
Gallwch gael gwybodaeth am sut y gallech elwa o oedi cyn gwneud cais am eich Pensiwn y Wladwriaeth
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â'r Gwasanaeth Pensiwn

