Pensiwn y Wladwriaeth

Rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth

Gwybodaeth bwysig am ragolygon Pensiwn y Wladwriaeth

Os byddwch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth cyn 6 Ebrill 2010, gallwch fel arfer gael rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth arlein, drwy’r post, neu dros y ffôn.

Os byddwch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth cyn 6 Ebrill 2010, gallwch ond cael rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth arlein ar hyn o bryd, drwy ddefnyddio rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth e-gwasanaeth. Mae hyn oherwydd rydym yn dal i ddiweddaru ein systemau cyfrifiadur eraill i adlewyrchu’r newidiadau diweddar mewn rheolau Pensiwn y Wladwriaeth. Rydym yn disgwyl y byddwch yn gallu cael rhagolwg drwy’r post, neu dros y ffôn erbyn Hydref 2008.

Os yw eich priod neu bartner sifil wedi marw
Os ydych wedi cael eich gwneud yn weddw neu fod eich partner sifil wedi marw ac y byddwch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth cyn 6 Ebrill 2010, gallwch gael rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth drwy’r post neu dros y ffôn. Bydd yn seiliedig ar eich cofnod Yswiriant Gwladol chi eich hun ac eich diweddar briod neu bartner sifil.

Os ydych wedi cael eich gwneud yn weddw neu fod eich partner sifil wedi marw ac y byddwch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar neu ar ôl 6 Ebrill 2010, ni allwn roi rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth ar hyn o bryd i chi. Mae hyn oherwydd ein bod yn dal i ddiweddaru ein systemau cyfrifiadur eraill i adlewyrchu’r newidiadau diweddar mewn rheolau Pensiwn y Wladwriaeth. Byddwch yn gallu cael rhagolwg drwy’r post, neu dros y ffôn erbyn Hydref 2008.

Sut i wneud cais am ragolwg Pensiwn y Wladwriaeth

Cael rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth ar lein Logo e-wasanaeth (ar gael i holl gwsmeriaid ar wahân i rai mae eu priod neu bartner sifil wedi marw)

Defnyddiwch ein cyfrifiannell oedran Pensiwn y Wladwriaeth i ddarganfod pan fyddwch â hawl i wneud cais am eich Pensiwn y Wladwriaeth.

Darganfyddwch sut y gall diwygio pensiynau effeithio ar eich Pensiwn y Wladwriaeth

Os ydych eisiau mwy o wybodaeth, cysylltwch â Canolfan Pensiwn y Dyfodol (FPC)

Beth ydyw?

Mae rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth yn dweud wrthych yng ngwerth arian heddiw:

  • swm y Pensiwn y Wladwriaeth hwyrach y cewch yn seiliedig ar eich cyfraniadau Yswiriant Gwladol cyn belled
  • swm y Pensiwn y Wladwriaeth hwyrach y cewch pan rydych yn gwneud cais am eich Pensiwn y Wladwriaeth

A allaf gael rhagolwg?

Gallwch gael rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth drwy'r post neu drwy ffonio os ydych:

  • yn byw yn y DU ac
  • yn fwy na 30 diwrnod i ffwrdd o oedran Pensiwn y Wladwriaeth ac
  • yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth cyn Ebrill 2010.

Gallwch gael rhagolwg ar lein os ydych:

  • yn byw yn y DU ac
  • yn fwy na pedwar mis i ffwrdd o oedran Pensiwn y Wladwriaeth ac
  • nid ydych yn weddw neu'n rhywun mae eu partner sifil wedi marw.

O 6 Ebrill 2020, 65 oed fydd oedran Pensiwn y Wladwriaeth i ferched, yr un peth â dynion. Bydd oedran Pensiwn y Wladwriaeth i ferched yn dechrau newid yn raddol o 2010.

Ni fydd hyn yn effeithio ar ferched a anwyd ar 5 Ebrill 1950 neu cyn y dyddiad hwnnw, a all barhau i wneud cais am eu Pensiwn y Wladwriaeth yn 60 oed. Bydd gan ferched a anwyd ar 6 Ebrill 1955 neu ar ôl y dyddiad hwnnw oedran Pensiwn y Wladwriaeth o 65 oed.

Bydd oedran Pensiwn y Wladwriaeth i ddynion a merched yn codi o 65 oed i 68 oed rhwng 2024 a 2046 gyda phob newid yn cael ei gyflwyno fesul cam dros ddwy flynedd yn olynol ym mhob degawd. Bydd y cynnydd cyntaf, o 65 oed i 66, yn cael ei gyflwyno fesul cam rhwng mis Ebrill 2024 a mis Ebrill 2026; yr ail, o 66 oed i 67 oed, rhwng mis Ebrill 2034 a mis Ebrill 2036; a'r trydydd, o 67 oed i 68 oed, rhwng mis Ebrill 2044 a mis Ebrill 2046.

Bydd ein cyfrifiannell oedran Pensiwn y Wladwriaeth yn dweud y dyddiad y byddwch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth wrthych.