ABC

Rhagor o help i ofalwyr

Beth ydyw?

Os ydych wedi bod yn edrych ar ôl rhywun ar unrhyw adeg yn ystod y dair mlynedd ddiwethaf, efallai eich bod yn gymwys am Bensiwn y Wladwriaeth ychwanegol os:

  • nad ydych wedi gweithio
  • ydych wedi gweithio rhan amser neu
  • ydych wedi bod ar incwm isel

Os ydych yn gymwys am Lwfans Gofalwr, Cymhorthdal Incwm fel gofalwr neu Fudd-dal Plant ar gyfer plentyn dan chwech oed, nid oes angen i chi wneud unrhyw beth gwahanol a byddwch yn adeiladu Ail Bensiwn y Wladwriaeth (Pensiwn y Wladwriaeth ychwanegol).

Os nad ydych, efallai y byddwch angen cychwyn adeiladu eich Ail Bensiwn y Wladwriaeth trwy wneud cais am Ddiogelwch Cyfrifoldebau Cartref.

Os ydych wedi bod yn gofalu llawn amser am berson sal neu anabl heb dderbyn Cymhorthdal Incwm fel gofalwr neu Lwfans Gofalwr, bydd angen i chi wneud cais am Ddiogelwch Cyfrifoldebau Cartref i gael Ail Bensiwn y Wladwriaeth.

Os ydych wedi edrych ar ôl rhywun trwy gydol y flwyddyn dreth 2002/2003, y dyddiad hwyraf y gellwch wneud cais am Ddiogelwch Cyfrifoldebau Cartref yw 5 Ebrill 2006.

Beth sydd angen i mi ei wneud?

Bydd ein canllaw di-dâl, pensiynau’r Wladwriaeth ar gyfer gofalwyr a rhieni, yn dweud wrthych am:

  • Ail Bensiwn y Wladwriaeth
  • yr amodau hawlio
  • beth sydd angen i chi ei wneud

Darllenwch neu argraffwch gopi o Pensiynau’r Wladwriaeth ar gyfer gofalwyr a rhieni [PM9]

Neu gellwch ffonio 0845 7 31 32 33 i gael copi.

Rhagor o wybodaeth

Darganfyddwch ragor am Ddiogelwch Cyfrifoldebau Cartref
Darganfyddwch ragor am Bensiwn y Wladwriaeth ychwanegol (a elwir hefyd yn Ail Bensiwn y Wladwriaeth a chyn hynny fel SERPS)
Darganfyddwch ragor am Lwfans Gofalwr