Bydd y rhestr ABC hon yn eich rhoi ar y cyfeiriad cywir i ddod o hyd i ragor o wybodaeth am yr hawliadau neu wasanaethau y gallech eu cael unwaith y byddwch yn bensiynwr. Gallwch hefyd chwilio am opsiynau pensiwn sy'n agored i chi os ydych yn cynllunio neu'n adolygu eich incwm ymddeol.
Neu ymwelwch ag adran A i Y ar wefan yr Adran Gwaith a Phensiynau am fwy o opsiynau.
Benthyciad Argyfwng: Mewn argyfwng neu drychineb, efallai y bydd gennych hawl i gael benthyciad di-dreth i’ch helpu chi a’ch teulu. Bydd yn rhaid i chi gytuno gyda’ch swyddfa nawdd cymdeithasol leol ar sut a phryd y byddwch yn talu’r benthyciad yn ôl. Cewch ragor o wybodaeth am fenthyciadau argyfwng ar wefan yr Adran Gwaith a Phensiynau
Benthyciadau Trefnu: Os ydych chi neu’ch partner wedi bod yn cael Cymhorthdal Incwm neu Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm am o leiaf 26 wythnos a bod angen help arnoch gyda chostau penodol sy’n anodd i’w talu o’ch incwm rheolaidd, gallwch wneud cais am Fenthyciad Trefnu. Mae’r benthyciadau hyn yn ddi-dreth. Bydd angen i chi gytuno gyda’ch swyddfa nawdd cymdeithasol leol sut a phryd y byddwch yn ad-dalu’ch benthyciad. Mae gan wefan y Ganolfan Byd Gwaith ragor o wybodaeth am fenthyciadau trefnu
Beth os oes bylchau yn eich Cyfraniadau Yswiriant Gwladol? O dan y rheolau arferol, y dyddiad cau diweddaraf ar gyfer gwneud taliadau am fylchau yn eich Cyfraniadau Yswiriant Gwladol yw 6 mlynedd ar ôl diwedd y flwyddyn ariannol berthnasol.
Fodd bynnag, ar gyfer y blynyddoedd ariannol 1996/97 a 2000/01 mae Cyllid y Wlad wedi cyhoeddi estyniad i’r dyddiad cau i 5 Ebrill 2008.
Mae Cyllid y Wlad wedi dechrau cysylltu â chwsmeriaid o oedran gweithio i’w hysbysu am fylchau yn eu cofnod Yswiriant Gwladol sy’n cwmpasu’r blynyddoedd treth 1996/97 a 2001/02.
Bydd Cyllid y Wlad yn dweud wrth bobl os oes ganddynt unrhyw gyfraniadau ar goll yn y blynyddoedd hynny, a beth y gallant ei wneud er mwyn llenwi’r bylchau yn eu cofnod cyfraniadau. Bydd gan bawb hyd at 5 Ebrill 2008 i dalu (waeth beth fo’r flwyddyn y mae’r bwlch hwnnw’n digwydd).
Yn y cyfamser os ydych am wybod p’un a fydd hwn yn effeithio ar eich hawliad Pensiwn y Wladwriaeth, gallwch ofyn am Ragolwg Pensiwn y Wladwriaeth
Blynyddoedd cymhwyso: y blynyddoedd rydych wedi bod yn talu, cael eich trin fel eich bod yn talu neu eich credydu â chyfraniadau Yswiriant Gwladol. Mewn rhai amgylchiadau, gallwch gael eich credydu â chyfraniadau Yswiriant Gwladol hyd yn oed os nad ydych wedi llwyddo i wneud gwaith â thâl.
Mae angen 44 o flynyddoedd cymhwyso ar ddynion i gael Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth llawn a bydd angen 39 o flynyddoedd cymhwyso ar ferched sy’n cyrraedd 60 oed cyn 2010. Bydd oedran Pensiwn y Wladwriaeth i ferched yn newid rhwng 2010 a 2020 felly bydd nifer y blynyddoedd cymhwyso sydd eu hangen ar ferched yn cynyddu’n raddol i 44 o flynyddoedd.
Gallwch ddarganfod mwy am oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar y wefan hon. Byddwch angen llai o flynyddoedd cymhwyso os ydych wedi derbyn dyfarniad Diogelwch Cyfrifoldebau Cartref
Os nad oes gennych y nifer llawn o flynyddoedd cymhwyso, byddwch yn dal i gael canran o Bensiwn sylfaenol y Llywodraeth llawn. I gael isafswm Pensiwn sylfaenol y Llywodraeth (25%) bydd angen 10 neu 11 o flynyddoedd cymhwyso arnoch fel arfer. Efallai y gallwch gael hwn mewn llai o flynyddoedd os byddwch wedi cael Diogelwch Cyfrifoldebau Cartref.
Os ydych fwy na phedwar mis o oedran Pensiwn y Wladwriaeth, gallwch weld faint y byddwch yn ei gael drwy ofyn am Ragolwg Pensiwn y Wladwriaeth
I gael rhagor o wybodaeth am gyfraniadau Yswiriant Gwladol ewch i’n cofnod ni o dan gyfraniadau Yswiriant Gwladol neu ewch i wefan Cyllid y Wlad.
Bonws Nadolig: Mae’r Bonws Nadolig yn daliad di-dreth a wneir i gwsmeriaid sydd ar hyn o bryd neu fel arfer yn byw yn y DU neu unrhyw Aelod-wladwriaeth arall yn yr UE ac sydd â hawl i gael un budd-dal cymwys neu fwy, yn cynnwys Pensiwn y Wladwriaeth a Chredyd Pensiwn yn ystod wythnos gyntaf Rhagfyr. Mae gan wefan yr Directgov ragor o wybodaeth am y Bonws Nadolig
Budd-dal Analluogrwydd: Caiff ei dalu
os daw Tâl Salwch Statudol i ben, neu os na allwch gael Tâl
Salwch Statudol. Ni thelir Budd-dal Analluogrwydd os oeddech dros Oedran
Pensiwn y Wladwriaeth pan aethoch yn sâl. Cewch
ragor o wybodaeth am Fudd-dal Analluogrwydd ar wefan y Ganolfan Byd Gwaith
O 27 Hydref 2008 mae Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn cymryd lle Budd-dal Analluogrwydd.
Budd-dal Tai: Os ydych ar incwm isel, gallai fod hawl gennych i gael help gyda’ch rhent gan eich cyngor lleol. Cewch ragor o wybodaeth am Fudd-dal Tai ar wefan yr Adran Gwaith a Phensiynau
Budd-dal Treth Cyngor: Os ydych ar incwm isel, efallai y gallwch gael help gyda’ch biliau Treth Cyngor. Gwnewch gais i’ch cyngor lleol am gymorth. Rhagor o wybodaeth am Fudd-dal Treth Cyngor
Budd-daliadau: Os ydych am weld pa fudd-daliadau y gallech wneud cais amdanynt unwaith y byddwch yn bensiynwr, gallwch ddod o hyd i fwy ar y wefan hon. Mae rhestr lawn o’r budd-daliadau y mae’r Adran Gwaith a Phensiynau yn ymdrin â hwy ar wefan yr Adran Gwaith a Phensiynau. Gallwch hefyd gael canllaw cryno i fudd-daliadau, pensiynau neu gredydau treth drwy lawr lwytho copi o’r cyhoeddiad A Guide to Benefits [MG1] o wefan yr Adran Gwaith a Phensiynau
Byddardod a achoswyd gan waith: gweler Anafiadau yn y gwaith
Bywyd gwaith: Eich bywyd gwaith yw’r cyfnod y gallai fod rhaid i chi fodloni’r amodau cyfrannu ar gyfer Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth. Rhagor o wybodaeth am fywyd gwaith