Bydd y rhestr ABC hon yn eich rhoi ar y cyfeiriad cywir i ddod o hyd i ragor o wybodaeth am yr hawliadau neu wasanaethau y gallech eu cael unwaith y byddwch yn bensiynwr. Gallwch hefyd chwilio am opsiynau pensiwn sy'n agored i chi os ydych yn cynllunio neu'n adolygu eich incwm ymddeol.
Canllaw i bensiynwyr: Mae’r canllaw hwn yn darparu gwybodaeth gynhwysfawr ar yr holl fudd-daliadau a chymorth sydd ar gael i bensiynwyr. Darllenwch ac argraffwch Canllaw i bensiynwyr
Canllawiau a ffurflenni: Gallwch ddarllen neu argraffu amrywiaeth o ganllawiau a ffurflenni cais o’r ganolfan adnoddau ar y wefan hon, ar ffurf Adobe Reader/Portable Document File (PDF).
Cartref Gofal preswyl neu Gartref Nyrsio: Ewch i Gartrefi gofal
Cartrefi gofal: Rhagor o wybodaeth am fynd i gartref gofal a thalu costau gofal
Cartrefi Nyrsio: Ewch i Ofal preswyl
Cofrestr Gwasanaeth Blaenoriaeth: (gwasanaethau am ddim gan eich cyflenwr nwy a thrydan) Os ydych dros 60 oed ac yn ddefnyddiwr nwy a thrydan domestig, gallai fod hawl gennych i gael gwasanaethau am ddim. Mae’n rhaid i bob cyflenwr nwy a thrydan ddarparu amrywiaeth o wasanaethau dewisol, am ddim o dan y cynllun o’r enw Cofrestr Gwasanaeth Blaenoriaeth. Gallwch gael gwybodaeth am y gwasanaethau am ddim sydd ar gael o dan Gofrestr Gwasanaeth Blaenoriaeth o energywatch, y pwyllgor gwarchod defnyddwyr nwy a thrydan annibynnol.
Costau iechyd: Gweler Gofal Deintyddol, Profion Llygaid, Sbectol a lensys cyffwrdd, Ysbytai, Presgripsiynau.
Costau tai ar gyfer perchennog-ddeiliaid: Newidiodd y ffordd y cyfrifir cyfradd llog safonol ar gyfer costau tai ym mis Tachwedd 2004. Rhagor o wybodaeth am gostau tai a chymhorthdal incwm
Costau teithio ar fws: Bydd eich cyngor lleol (neu’r Awdurdod Gweithredol Trafnidiaeth i Deithwyr mewn ardaloedd metropolitan) yn rhoi pás bws am ddim i chi er mwyn caniatáu i chi deithio o leiaf hanner pris ar y bws yn eich ardal. Efallai y cynigir cynlluniau teithio lleol eraill i’ch helpu i fynd o amgylch. Mae’r cynlluniau teithio yn wahanol yng Nghymru, Lloegr a’r Alban. Rhagor o wybodaeth am gostau teithio ar fws i bensiynwyr yng Nghymru a Lloegr
Credyd Pensiwn: Hawliad yw Credyd Pensiwn i bobl 60 oed a throsodd a gyflwynwyd gan y Llywodraeth o fis Hydref 2003. Disodlodd y Gwarant Isafswm Incwm. Mae’n gwarantu bod pob un sy’n 60 oed a throsodd o leiaf ar incwm o:
Os ydych chi neu eich partner yn 65 oed neu drosodd ac rydych wedi cynilo rhywfaint o arian tuag at eich ymddeoliad, fel cynilion neu ail bensiwn, efallai cewch Gredyd Pensiwn ychwanegol. Credyd Cynilo yw hwn a gallai fod hyd at:
O 6 Ebrill 2010 bydd oedran Pensiwn y Wladwriaeth i ferched yn codi’n raddol o’r oedran Pensiwn y Wladwriaeth presennol o 60. Bydd yr oedran y gall pobl gael Credyd Pensiwn yn codi’n unol â hyn.
Credydau Treth: Caiff Credydau Treth eu trin gan Gyllid y Wlad. I gael gwybodaeth am gredydau treth, ymwelwch â gwefan Cyllid y Wlad
Credydau Yswiriant Gwladol: Mewn rhai amgylchiadau efallai y cewch eich credydu ag enillion i’ch helpu i gael Pensiwn y Wladwriaeth os nad oes gennych enillion mewn blwyddyn dreth sy’n cyrraedd y lefel sydd ei hangen i’w gwneud yn flwyddyn gymhwyso.
Er enghraifft, yn y flwyddyn dreth efallai yr oeddech:
Efallai y caiff dynion heb unrhyw rwymedigaeth i dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 neu Ddosbarth 2 eu credydu yn awtomatig ar gyfer y flwyddyn dreth pan fyddant yn 60 oed a’r pedair blynedd ganlynol. O 6 Ebrill 2010 estynnir y cytundeb hwn i ferched. Gall pobl ifanc gael credydau ar gyfer y flwyddyn dreth y byddant yn 16 oed a’r ddwy flynedd ganlynol.
Mae rhai amgylchiadau yn gysylltiedig â derbyn credydau Yswiriant Gwladol ac nid yw argaeledd credyd yn golygu nad oes rhaid i chi dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol os yw’ch enillion yn fwy na throthwy sylfaenol y cyflogai (£4,465 ar gyfer 2006/07) neu £5,035 ar gyfer 2006/07 os ydych yn hunangyflogedig. Ni chredydir enillion i ferched priod sydd wedi talu rhwymedigaeth cyfraniad ar gyfradd is.
Cronfa Addysg Pensiynau: Mae’r gronfa yn anelu
i godi ymwybyddiaeth ariannol ymysg pobl sydd yn gweithio - y cyflogai
a’r hunangyflogedig – gan roi’r wybodaeth maent eu angen
iddynt i’w helpu i wneud penderfyniadau ynglyn â’u hymddeoliad.
Bydd cyrff-di-elw (fel undebau llafur, cymdeithasau llafur, elusennau
a chyrff y sector gyhoeddus ) yn cynnig am a defnyddio arian o’r
Gronfa i ddatblygu ffyrdd arloesol i gysylltu’n weithredol â
phobl sydd yn gweithio.
Cewch wybod
mwy am Gronfa Addysg Pensiynau ar wefan yr Adran Gwaith a Phensiynau
Cronfa Diogelu Pensiwn: Sefydliad newydd a fydd, o fis Ebrill 2005, yn diogelu aelodau o gynlluniau budd-dal diffiniedig drwy dalu iawndal os bydd eu cyflogwr yn dod yn fethdalwr ac nad oes digon o arian yn eu cynllun pensiwn.
Er mwyn cael digon o arian i dalu iawndal, bydd y gronfa Diogelu Pensiwn yn codi ardoll flynyddol orfodol ar bob cynllun budd-dal diffiniedig a chymryd gweddill asedau unrhyw gynllun cwmni sydd wedi methdalu sy’n mynd i mewn i’r Gronfa Diogelu Pensiwn. Cewch ragor o wybodaeth ar wefan y Gronfa Diogelu Pensiwn
Cronfa Gymdeithasol: Mae’r Gronfa Gymdeithasol yn darparu cyfandaliadau, grantiau a benthyciadau. Mae grantiau a benthyciadau gan y Gronfa Gymdeithasol yn ôl disgresiwn ac nid ydynt am swm safonol. Efallai y gallwch gael help gan y Gronfa Gymdeithasol ar gyfer costau pwysig sy’n anodd i’w talu allan o’ch incwm rheolaidd. Cewch ragor o wybodaeth am y Gronfa Gymdeithasol ar wefan y Ganolfan Byd Gwaith
Cronfa Partneriaeth: Ewch i Y Gronfa Partneriaeth
Cwynion: Os oes gennych gwyn neu sylw am Y Gwasanaeth Pensiwn, cysylltwch â’ch canolfan pensiwn drwy’r post, dros y ffôn, ffacs neu e-bost
Cyflogaeth: Gweler Gwaith â Thâl neu Gwaith Gwirfoddol
Cyfraniadau Yswiriant Gwladol: Os oes gennych gwestiynau am gyfraniadau Yswiriant Gwladol, efallai y gall swyddfa Cyfraniadau Yswiriant Gwladol Cyllid y Wlad eich helpu.
Efallai y gallwch brynu cyfraniadau ychwanegol o dan reolau presennol.
Am wybodaeth pellach ymwelwch â gwefan Cyllid a Thollau EM
Pensiwn y Wladwriaeth – Talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 3
Gellwch gysylltu â Swyddfa Cyllid y Wlad Cyfraniadau Yswiriant Gwladol Gogledd Iwerddon ar 028 9025 1411, dydd Llun i ddydd Gwener, o 9am i 3:30pm
neu gellwch ysgrifennu i’r:
Inland Revenue National Insurance Contributions Office (Northern Ireland)
24-42 Corporation Street,
Belfast
BT1 3DP
Neu gellwch hefyd fynd i wefan Cyllid a Thollau EM
Cytundebau nawdd cymdeithasol: Os ydych yn mynd i wlad arall yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (EEA) neu wlad sydd â chytundeb nawdd cymdeithasol gyda'r Deyrnas Unedig (DU), efallai y gallech gael budd-dal na fuasech yn arferol yn ei gael dramor. Neu efallai y gallech gael budd-dal mae'r wlad honno'n ei ddarparu. Os rydych yn dod o un o'r gwledydd rheini efallai y gallech gael budd-dal o'r wlad honno neu fudd-dal mae'r DU yn ei ddarparu. Cewch wybodaeth am gytundeb nawdd cymdeithasol gyda gwledydd eraill ar wefan yr Adran Gwaith a Phensiynau
Cyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol: I gael canllawiau a ffurflenni cyfraniadau Yswiriant Gwladol, yn cynnwys y daflen ‘CA5603 Talu Cyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol’, ymwelwch â gwefan Cyllid y Wlad new ewch i gyfraniadau Yswiriant Gwladol
Cyfrif Cynilo Unigol (ISA): Mae hwn yn gynllun cynilo di-dreth newydd a gynlluniwyd gan y Llywodraeth i’ch helpu i gynilo arian. Cewch ragor o wybodaeth am ISAs ar wefan Cyllid y Wlad
Cyfrifiaduron: Ewch i Ganolfannau Ar-lein
Cyfrifiannell: Ar y wefan hon, gallwch gyfrifo eich oedran Pensiwn y Wladwriaeth, neu gyfrifo faint o Gredyd Pensiwn y gallai fod hawl gennych iddo
Cyfrifon: Darllenwch neu argraffwch adroddiad blynyddol Y Gwasanaeth Pensiwn yn ein hadran amdanom ni
Cyhoeddiadau: Ewch i Ganllawiau a ffurflenni
Cyllid y Wlad sy’n ymdrin â Rhagolygon Pensiwn ar gyfer cwsmeriaid dramor. Cewch ragor o wybodaeth am ragolygon pensiwn i gwsmeriaid tramor ar wefan Cyllid y Wlad
Cyllid y Wlad sy’n ymdrin ag ymholiadau am gyfraniadau Yswiriant Gwladol ar gyfer cwsmeriaid dramor. Cewch ragor o wybodaeth am Gyfraniadau Yswiriant Gwladol dramor ar wefan Cyllid y Wlad
Cymhorthdal Incwm a chostau tai: Newidiodd y ffordd y cyfrifir cyfradd llog safonol ar gyfer costau tai ym mis Tachwedd 2004. Rhagor o wybodaeth am gostau tai a chymhorthdal incwm
Cymhorthdal Incwm: Os ydych rhwng 16 a 59 oed, ar incwm isel ac nad ydych yn gweithio neu’n gweithio llai na 16 awr yr wythnos ar gyfartaledd, gallech fod yn gymwys i gael Cymhorthdal Incwm. Cewch ragor o wybodaeth am Gymhorthdal Incwm ar wefan y Ganolfan Byd Gwaith
Rhwng 2010 a 2020 bydd yr uchafswm oedran hyd at y gall dynion a merched dderbyn Cymhorthdal Incwm yn codi’n
unol â’r codiad mewn oedran Pensiwn y Wladwriaeth i ferched.
Cyfrifiannell oedran Pensiwn y Wladwriaeth
Cymorth Dioddefwyr: Os ydych wedi bod yn ddioddefwr trosedd a hoffech siarad â rhywun yn gyfrinachol, gallwch ffonio’r llinell gymorth genedlaethol ar 0845 30 30 900. Mae’r llinell ar agor o 9am i 9pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener ac o 9am i 7pm ar y penwythnosau. Rhagor o wybodaeth am Gymorth Dioddefwyr yng Nghymru a Lloegr
Cymryd eich Pensiwn y Wladwriaeth yn hwyrach: Ewch i Gohirio Pensiwn y Wladwriaeth
Cynllun Amrywioldeb Cydraddoldeb: Mae Cynllun Amrywioldeb Cydraddoldeb y Gwasanaeth Pensiwn ar gael yn ein hadran Ynglyn â ni.
Cynllun busnes: Dewch o hyd i ragor o wybodaeth am gynlluniau’r Gwasanaeth Pensiwn yn y dyfodol drwy ddarllen ein Cynllun Pensiwn yn adran Amdanom ni ar y wefan hon.
Cynllun Effeithlonrwydd Ynni’r Cartref: Os ydych yn 60 oed neu’n hyn ac yn cael budd-daliadau arbennig, gallai fod hawl gennych i gael help gyda gwresogi a gwelliannau inswleiddio i’ch cartref. Os ydych yn byw mewn ardal sydd wedi’i nodi’n uchel o ran trosedd, gallech hefyd gael mesurau diogelu’r cartref sylfaenol, fel cloeon ar gyfer y drysau a’r ffenestri. Mae’r cynlluniau yn wahanol ar gyfer Cymru, Lloegr a’r Alban. Rhagor o wybodaeth am Gynllun Effeithlonrwydd Ynni’r Cartref yng Nghymru a Lloegr
Cynnydd oedolyn dibynnol: Mae cynnydd oedolyn dibynnol yn gynnydd yn eich Pensiwn y Wladwriaeth ar gyfer gwraig, gŵr neu rhywun sydd yn edrych ar ôl eich plant, cyn belled eu bod hi neu ef yn cael eu hystyried i fod yn ddibynnol arnoch yn ariannol. Cewch rhagor o wybodaeth am gynnydd oedolyn dibynnol
Cysylltu â’r Gwasanaeth Pensiwn: Cysylltwch â ni drwy adran gysylltu’r wefan.
Cysylltwch ag energywatch ar 0845 906 0708 (typetalk 18001 0845 906 0708) neu ymwelwch â gwefan energywatch