ABC

Bydd y rhestr ABC hon yn eich rhoi ar y cyfeiriad cywir i ddod o hyd i ragor o wybodaeth am yr hawliadau neu wasanaethau y gallech eu cael unwaith y byddwch yn bensiynwr. Gallwch hefyd chwilio am opsiynau pensiwn sy'n agored i chi os ydych yn cynllunio neu'n adolygu eich incwm ymddeol.

Neu ymwelwch ag adran A i Y ar wefan yr Adran Gwaith a Phensiynau am fwy o opsiynau.

Damweiniau yn y gwaith: gweler Anafiadau yn y gwaith

Darllenwch y datganiad i’r wasg am y Mesur Pensiynau Bydd y cyswllt hwn yn mynd â chi i wefan yr Adran Gwaith a Phensiynau.

Darparwyr cynlluniau: Dylai cwmnïau gwasanaethau ariannol sy’n dymuno cofrestru fel darparwr cynllun pensiwn rhanddeiliaid gael pecyn cais. Gall darparwyr cynllun pensiwn ddod o hyd i fwy ar y wefan hon

Diogelwch Cyfrifoldebau Cartref: Cynllun yw Diogelwch Cyfrifoldebau Cartref sy’n eich helpu i ddiogelu eich Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth. Os nad ydych yn gweithio, neu os yw eich enillion yn isel a’ch bod yn gofalu am rywun, gallech gael Diogelwch. Os ydych wedi edrych ar ôl rhywun trwy gydol y flwyddyn dreth 2002/2003, y dyddiad hwyraf y gellwch wneud cais am Ddiogelwch Cyfrifoldebau Cartref yw 5 Ebrill 2006. Cewch ragor o wybodaeth am Ddiogelwch Cyfrifoldebau Cartref ar y wefan hon

Diogelwch tân: Gall pencadlys y frigâd dân yn eich sir neu ardal fetropolitan roi cyngor personol i chi ar atal tanau yn eich cartref. Os hoffech, gallant ddod i ymweld â chi yn eich cartref a’ch helpu i osod larymau mwg. Dewch o hyd i’w cyfeiriad a’u rhif yn y llyfr ffôn. Rhagor o wybodaeth a chyngor ar ddiogelwch tân ar wefan yr Adran ar gyfer Cymunedau a Llywodraeth Leol.

Diogelwch: Rhagor o wybodaeth am ddiogelwch. Hefyd ymwelwch â Chynllun Effeithlonrwydd Ynni’r Cartref

Diwygio pensiynau: Cewch mwy o wybodaeth am ddiwygio systemau Pensiynau’r Wladwriaeth o dan y Ddeddf Pensiynau 2007

Dramor: Ewch i’r adran byw dramor. Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon ymwelwch â gwefan Asiantaeth Nawdd Cymdeithasol Gogledd Iwerddon yn: www.dsdni.gov.uk

Dysgu: Llinell gymorth ffôn am ddim yw learndirect, a all roi gwybodaeth a chyngor i chi am bob agwedd ar ddysgu. P’un a oes gennych ddiddordeb mewn cyfrifiaduron, hanes lleol neu fusnes, neu os ydych am ddysgu darllen neu ysgrifennu yn well, gall learndirect eich helpu i ddod o hyd i fwy o wybodaeth. Gweler www.learndirect.co.uk