Bydd y rhestr ABC hon yn eich rhoi ar y cyfeiriad cywir i ddod o hyd i ragor o wybodaeth am yr hawliadau neu wasanaethau y gallech eu cael unwaith y byddwch yn bensiynwr. Gallwch hefyd chwilio am opsiynau pensiwn sy'n agored i chi os ydych yn cynllunio neu'n adolygu eich incwm ymddeol.
Neu ymwelwch ag adran A i Y ar wefan yr Adran Gwaith a Phensiynau am fwy o opsiynau.
Energywatch: yw’r pwyllgor gwarchod annibynnol ar gyfer pob defnyddiwr nwy a thrydan. Mae energywatch yn cynnig help a chyngor am ddim ar bob mater nwy a thrydan. Gwnaeth lansio ymgyrch yn ddiweddar i gynyddu’r nifer o bobl gymwys sy’n cofrestru ar gyfer y gwasanaeth am ddim o dan y Gofrestr Gwasanaeth Blaenoriaeth. I gael rhagor o wybodaeth ffoniwch energywatch ar 0845 906 0708 (typetalk 18001 0845 906 0708) neu ymwelwch â gwefan energywatch.
Etifeddu SERPS: Gweler SERPS
Ewyllys: Mae gwneud ewyllys yn caniatáu i chi nodi pwy fydd yn elwa ar eich eiddo (eich ystad) ar ôl eich marwolaeth. Rhagor o wybodaeth am ewyllysiau