Bydd y rhestr ABC hon yn eich rhoi ar y cyfeiriad cywir i ddod o hyd i ragor o wybodaeth am yr hawliadau neu wasanaethau y gallech eu cael unwaith y byddwch yn bensiynwr. Gallwch hefyd chwilio am opsiynau pensiwn sy'n agored i chi os ydych yn cynllunio neu'n adolygu eich incwm ymddeol.
Hawliau a gwasanaethau anabledd: Mae’r Llywodraeth wedi cynhyrchu ‘Canllaw Ymarferol i Bobl Anabl neu Ofalwyr’. Gallai fod yn ddefnyddiol i unrhyw un sydd ag anabledd neu sy’n gofalu am berthynas neu ffrind anabl. I gael copi am ddim o’r canllaw hwn, gallwch ffonio’r Llinell Llenyddiaeth Iechyd ar 0800 555 777. Rhagor o wybodaeth am hawliau a gwasanaethau anabledd yng Nghymru neu Loegr
Hefyd ewch i ymgynghoriadau
Hen bensiynau: Ewch i Olrhain pensiwn
Hunangyflogedig: Os ydych yn hunangyflogedig, nid ydych wedi’ch cwmpasu gan Gynllun Pensiwn y Wladwriaeth ar sail Enillion (SERPS) nac Ail Bensiwn arfaethedig y Wladwriaeth. Mae’n bwysig eich bod yn edrych ar eich opsiynau pensiwn ac yn dechrau cynllunio’ch incwm ymddeoliad cyn gynted â phosibl. Darllenwch neu argraffwch ein canllaw ar gyfer yr hunangyflogedig.
I gael rhagor o wybodaeth am ganllawiau a ffurflenni cyfraniadau Yswiriant Gwladol, yn cynnwys y daflen ‘CA08W Cyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol’, ymwelwch â gwefan Cyllid y Wlad