Bydd y rhestr ABC hon yn eich rhoi ar y cyfeiriad cywir i ddod o hyd i ragor o wybodaeth am yr hawliadau neu wasanaethau y gallech eu cael unwaith y byddwch yn bensiynwr. Gallwch hefyd chwilio am opsiynau pensiwn sy'n agored i chi os ydych yn cynllunio neu'n adolygu eich incwm ymddeol.
Neu ymwelwch ag adran A i Y ar wefan yr Adran Gwaith a Phensiynau am fwy o opsiynau.
Link-Age: Mae’r cyhoeddiad: ‘Link-Age: developing networks of services for older people’, yn amlinellu’r camau sy’n cael eu cymryd i fodloni ymrwymiad maniffesto 2001 i ddatblygu ‘gwasanaeth trydydd oes’. Dewch o hyd i ragor o wybodaeth am Link-Age. Darllenwch y ddogfen ‘Link-Age: developing networks of services for older people’ ar wefan yr Adran Gwaith a Phensiynau
Lwfans Byw i’r Anabl: Os ydych o dan 65 oed gydag anabledd a bod angen help arnoch i ofalu amdanoch eich hun, gallech wneud cais am y lwfans hwn. Os ydych yn 65 oed neu’n hyn, bydd angen i chi wneud cais am Lwfans Gweini yn lle hynny. Cewch ragor o wybodaeth am Lwfans Byw i’r Anabl ar wefan yr Directgov
Lwfans Cyflogaeth a Chymorth: O 27 Hydref 2008 mae Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA) yn cymryd lle Budd-dal Analluogrwydd a Cymhorthdal Incwm sydd yn cael ei dalu ar sail analluogrwydd i gwsmeriaid newydd. Darganfyddwch mwy am ESA ar wefan yr Adran Gwaith a Phensiynau
Lwfans Gofalwr: Os ydych yn treulio o leiaf 35 awr yr wythnos yn gofalu am rywun sy’n ddifrifol anabl, gallai fod hawl gennych i gael y taliad hwn. Cewch ragor o wybodaeth am Lwfans Gofalwr ar wefan yr Directgov. Gweler hefyd Gofalu am eraill
Lwfans Gweini: Os ydych yn 65 oed neu’n hyn ac wedi bod angen help i ofalu amdanoch eich hun am o leiaf 6 mis, efallai y gallai fod hawl gennych i gael Lwfans Gweini. Os ydych o dan 65 oed ac angen help i ofalu amdanoch eich hun, efallai y gallai fod hawl gennych i gael Lwfans Byw i’r Anabl yn lle hynny. Rhagor o wybodaeth am Lwfans Gweini ar wefan yr Directgov
Lwfans Pâr Priod: Mae’r lwfans hwn yn lleihau’r swm o Dreth Incwm y mae’n rhaid i bâr priod ei dalu. Mae’r swm a gewch yn dibynnu ar eich oedran a chyfanswm incwm y gwr o bob ffynhonnell. Rhagor o wybodaeth am Lwfans Pâr Priod
Lwfansau Personol ar Sail Oedran: Lwfans personol yw’r swm o incwm y gallwch ei gael heb orfod talu treth. Mae pawb sydd ag incwm yn cael lwfans personol. Fodd bynnag, os ydych yn 65 oed neu’n hyn, cyhyd â bod eich incwm yn is nag isafswm penodol, bydd eich lwfans di-dreth yn fwy hael. Gallai’ch incwm gynnwys pensiynau, cyflog a llog ar gynilion. Rhagor o wybodaeth am lwfansau personol ar sail oedran.