Bydd y rhestr ABC hon yn eich rhoi ar y cyfeiriad cywir i ddod o hyd i ragor o wybodaeth am yr hawliadau neu wasanaethau y gallech eu cael unwaith y byddwch yn bensiynwr. Gallwch hefyd chwilio am opsiynau pensiwn sy'n agored i chi os ydych yn cynllunio neu'n adolygu eich incwm ymddeol.
Neu ymwelwch ag adran A i Y ar wefan yr Adran Gwaith a Phensiynau am fwy o opsiynau.
Marwolaeth: Beth fydd yn digwydd os byddwch yn colli rhywun agos? Rhagor o wybodaeth am farwolaeth ar y wefan hon.
Merched: Fel merch, efallai bod eich patrwm bywyd gwaith yn wahanol i ddyn ac mae angen i chi ddeall os yw hyn yn effeithio ar eich incwm ymddeol. Hefyd, mae gwybodaeth bwysig y mae angen i chi ei gwybod am y newid i oedran pensiwn y wladwriaeth i ferched. Darllenwch neu argraffwch Pensiynau i ferched – Eich canllaw