ABC

Bydd y rhestr ABC hon yn eich rhoi ar y cyfeiriad cywir i ddod o hyd i ragor o wybodaeth am yr hawliadau neu wasanaethau y gallech eu cael unwaith y byddwch yn bensiynwr. Gallwch hefyd chwilio am opsiynau pensiwn sy'n agored i chi os ydych yn cynllunio neu'n adolygu eich incwm ymddeol.

Neu ymwelwch ag adran A i Y ar wefan yr Adran Gwaith a Phensiynau am fwy o opsiynau.

Oedi Hawlio Pensiwn y Wladwriaeth: Ewch i gohirio Pensiwn y Wladwriaeth

Oedran Pensiwn y Wladwriaeth: 65 oed yw oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar gyfer dynion a 60 oed ar gyfer merched. Fodd bynnag, mae oedran Pensiwn y Wladwriaeth i ferched yn newid – bydd yn codi yn raddol o 60 oed i 65 oed o 2010 i 2020. Mae’ch oedran Pensiwn y Wladwriaeth yn wahanol i’ch oedran ymddeol. Pam? Nid yw’ch oedran ymddeol, hynny yw’r oedran pan fyddwch yn dewis ymddeol, yn rhwym gan y gyfraith, ond eich oedran Pensiwn y Wladwriaeth yw’r oedran cyfreithiol lle y gallwch ddechrau gwneud cais am eich Pensiwn y Wladwriaeth.Cyfrifo eich oedran Pensiwn y Wladwriaeth

Oedran ymddeol: Dyma’r oed rydych yn dewis ymddeol. Yn wahanol i oedran Pensiwn y Wladwriaeth, hwnnw yw’r oedran y gallwch ddechrau gwneud cais am eich Pensiwn y Wladwriaeth, ond nid yw’n rhwym gan y gyfraith. Gellir defnyddio oedran ymddeol hefyd weithiau o ran yr Oedran Ymddeol Cyffredin a nodir o dan gynlluniau pensiwn preifat fel yr oedran y gallwch ddechrau codi arian o’ch pensiwn preifat. Rhagor o wybodaeth am eich oedran Pensiwn y Wladwriaeth

Olrhain pensiwn: Ewch i Gwasanaeth Olrhain Pensiynau