Bydd y rhestr ABC hon yn eich rhoi ar y cyfeiriad cywir i ddod o hyd i ragor o wybodaeth am yr hawliadau neu wasanaethau y gallech eu cael unwaith y byddwch yn bensiynwr. Gallwch hefyd chwilio am opsiynau pensiwn sy'n agored i chi os ydych yn cynllunio neu'n adolygu eich incwm ymddeol.
Salwch meddwl: I gael gwybodaeth am beth i’w wneud pan na fydd rhywun yn gallu rheoli eu materion eu hunain oherwydd analluogrwydd neu salwch meddwl, a sut i ddechrau atwrneiaeth parhaol, yng Nghymru a Lloegr, ymwelwch â gwefan Swyddfa Gwarchodaeth y Cyhoedd, yn yr Alban ewch i Scottish Office of the Public Guardian.
Sbectolau a lensys cyffwrdd: Os ydych yn cael Credyd Pensiwn, gallech gael talebau tuag at gostau sbectol neu lensys cyffwrdd. Cewch ragor o wybodaeth am sbectol a lensys cyffwrdd ar wefan yr Adran Iechyd
SERPS: Tra’ch bod chi neu’ch gwr neu wraig wedi bod yn gweithio, rydych wedi bod yn cyfrannu at Gynllun Pensiwn y Wladwriaeth ar sail Enillion (SERPS) yn ogystal â’ch Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth. O fis Ebrill 2002, diwygiodd Ail Bensiwn y Wladwriaeth SERPS i ddarparu pensiwn y wladwriaeth ychwanegol gwell ar gyfer enillwyr isel a chymedrol, ac ehangu mynediad i rai gofalwyr a phob anabl hirdymor. Darllenwch neu argraffwch ein canllaw i etifeddu SERPS, neu darllenwch yr adran etifeddu SERPS ar y wefan hon.
Siarter Cwsmeriaid: Mae Siarter Cwsmeriaid Y Gwasanaeth
Pensiwn yn dweud wrthych beth y gallwch ei ddisgwyl gennym. Mae hefyd
yn dweud wrthych beth y gallwch ei wneud i'n helpu a beth i'w wneud os
bydd pethau'n mynd o'i le.
Darllenwch ein Siarter Cwsmeriaid
Swyddfa nawdd cymdeithasol: Gallwch fynd i cysylltu â ni i ddod o hyd i’ch canolfan bensiynau leol.
Symleiddio Treth Pensiynau: Trefn wedi ei symleiddio ar gyfer pensiynau gydag un set o reolau ar gyfer cynilion pensiwn â manteision treth, yn effeithio ar y diwydiant pensiynau, cyflogwyr ac unigolion. Bydd yn cychwyn ar y 6 Ebrill 2006. Cewch ddarganfod rhagor am symleiddio Treth Pensiynau ar wefan Cyllid a Thollau EM.
Symleiddio pensiwn (Adroddiad Pickering ar Symleiddio Pensiwn): Wedi’i grynhoi gan yr arbenigwr pensiynau annibynnol, Alan Pickering, cyhoeddwyd yr adroddiad hwn ar 11 Gorffennaf 2002. Darllenwch adroddiad Pickering (ffeil PDF 215kb) neu ddatagniad i’r wasg adroddiad Pickering ar wefan yr Adran Gwaith a Phensiynau. Bydd y Llywodraeth yn ystyried y cynigion ac yn ateb mewn papur gwyrdd yn yr hydref, a fydd hefyd yn cwmpasu materion pensiwn ehangach.
Symlrwydd, diogelwch a dewis - gweithio a chynilo tuag at ymddeoliad: Ewch i’r Papur Gwyrdd Pensiynau
Symud dramor: Cewch wybod mwy am Bensiwn y Wladwriaeth i Brydeinwyr yn byw dramor ar Directgov