ABC

Bydd y rhestr ABC hon yn eich rhoi ar y cyfeiriad cywir i ddod o hyd i ragor o wybodaeth am yr hawliadau neu wasanaethau y gallech eu cael unwaith y byddwch yn bensiynwr. Gallwch hefyd chwilio am opsiynau pensiwn sy'n agored i chi os ydych yn cynllunio neu'n adolygu eich incwm ymddeol.

Neu ymwelwch ag adran A i Y ar wefan yr Adran Gwaith a Phensiynau am fwy o opsiynau.

Taflenni: Ewch i Canllawiau a ffurflenni

Taliad Profedigaeth: Os ydych dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth ni fyddwch fel arfer yn gallu cael Budd-dal Profedigaeth. Ond, os nad oedd eich gwr, gwraig neu bartner sifil yn cael Pensiwn y Wladwriaeth categori A efallai y gallwch gael Taliad Profedigaeth. Er mwyn bod yn gymwys, mae’n rhaid bod eich gwr, gwraig neu bartner sifil wedi talu digon o gyfraniadau Yswiriant Gwladol tra’u bod yn gweithio. Gallai fod hawl gennych hefyd i gael Taliad Angladd, neu os oedd eich gwr neu bartner sifil yn bensiynwr Rhyfel efallai y gallai fod hawl gennych i gael cymorth gan yr Asiantaeth Cyn-filwyr. Cewch ragor o wybodaeth am Daliad Profedigaeth yn ein hadran ymddeol.

Taliad Tanwydd Gaeaf: Os ydych yn 60 oed neu’n hyn, efallai y byddwch yn gymwys i gael taliadau gan y Llywodraeth i’ch helpu gyda’ch biliau gwresogi yn y gaeaf. O’r gaeaf hwn, gall y rhai sy’n 80 oed neu’n hyn gael taliad ychwanegol o hyd at £100. Rhagor o wybodaeth am Daliadau Tanwydd Gaeaf. Os ydych wedi cael neu wedi gwneud cais am Daliad Tanwydd Gaeaf yn y DU efallai y gallwch barhau i gael Taliad Tanwydd Gaeaf os byddwch yn symud i wlad arall yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE), neu’r Swistir. I gael mwy o fanlyion cysylltwch â'r Llinell Gymorth Taliadau Tanwydd Gaeaf

Taliad Tywydd Oer: Os ydych yn cael Credyd Pensiwn neu fudd-dal arall ar sail incwm, gallai fod hawl gennych i gael cymorth ychwanegol i helpu gyda’ch costau gwresogi pan fydd cyfnod o dywydd oer yn eich ardal. Mae hwn yn wahanol i Daliad Tanwydd Gaeaf, y gallech hefyd fod â hawl i’w gael. Cewch ragor o wybodaeth am Daliadau Tywydd Oer ar wefan y Ganolfan Byd Gwaith

Taliad Uniongyrchol: Y modd y telir pensiynau a budd-daliadau. Gan nad yw llyfrau archebion bellach yn cael eu defnyddio, telir eich arian yn uniongyrchol i mewn i gyfrif o’ch dewis. Am fwy o wybodaeth ynglyn â thaliad uniongyrchol, ffoniwch eich canolfan bensiwn leol ar 0845 6060275. Os yw eich amgylchiadau’n newid, er enghraifft os ydych yn newid eich cyfeiriad, cysylltwch â’r swyddfa sy’n talu eich pensiwn neu fudd-dal.

Taliadau Angladd: Yn dibynnu ar eich amgylchiadau, gallai fod hawl gennych i gael taliad unigol i’ch cynorthwyo gyda chostau angladd rhywun agos. Cewch ragor o wybodaeth am Daliadau Angladd ar wefan y Ganolfan Byd Gwaith. Mae gwybodaeth hefyd ar gael am Daliad Profedigaeth ar y wefan hon

Tâl Salwch Statudol: Telir gan eich cyflogwr am hyd at 28 wythnos os oeddech yn sâl am o leiaf 4 diwrnod yn olynol yn cynnwys penwythnosau a Gwyliau’r Banc, a’ch bod yn gyflogedig pan ddaethoch yn sâl ac yn ennill digon, ar gyfartaledd iddo fod yn berthnasol at ddibenion YG. Cewch ragor o wybodaeth am Dâl Salwch Statudol ar wefan yr Adran Gwaith a Phensiynau

Teithio dramor: Efallai yr effeithir ar eich budd-daliadau os ydych yn teithio dramor am gyfnodau hir. Edrychwch ar fanylion eich budd-dal neu fudd-daliadau cyn i chi fynd i deithio. Cewch ragor o wybodaeth am deithio dramor ar wefan yr Adran Gwaith a Phensiynau

Trafnidiaeth: Gweler Costau teithio ar fws ac Ysbyty

Trafodaeth Bensiynau: Ewch i’r Drafodaeth Genedlaethol ar Bensiynau

Trafodaeth Genedlaethol ar Bensiynau: Hon yw'r drafodaeth genedlaethol gyfredol ar sut gall ein system bensiynau gynnal ein cymdeithas sy'n heneiddio, yn y dyfodol.
Cewch ragor o wybodaeth am y Drafodaeth Genedlaethol ar Bensiynau ar wefan yr Adran Gwaith a Phensiynau

Treth Etifeddiant: Os yw’ch ystad yn werth mwy na swm penodol, efallai y bydd treth etifeddiant i’w dalu pan fyddwch yn marw. Mae’n annhebygol y bydd rhaid i’ch gwr, gwraig neu bartner sifil dalu’r dreth hon ar unrhyw beth y byddwch yn ei drosglwyddo iddynt. Rhagor o wybodaeth am dreth etifeddiant

Treth incwm: Gweler Lwfansau Personol ar sail Oedran

Triniaethau Meddygol Pensiynwyr Rhyfel: Mewn rhai amgylchiadau, mae help gyda thriniaethau meddygol, costau ysbyty a thrafaelio a gofal nyrsio ar gael i Bensiynwyr Rhyfel. Cewch ragor o wybodaeth am Driniaethau Meddygol Pensiynwyr Rhyfel ar wefan yr Asiantaeth Cyn-filwyr

Trosedd: Ewch i Gymorth i Ddioddefwyr a Chynllun Effeithiolrwydd Ynni’r Cartref

Trwyddedau teledu: Bydd y Llywodraeth nawr yn talu am eich trwydded deledu os ydych yn 75 oed neu’n hyn. Rhagor o wybodaeth am drwyddedau teledu i bensiynwyr