Bydd y rhestr ABC hon yn eich rhoi ar y cyfeiriad cywir i ddod o hyd i ragor o wybodaeth am yr hawliadau neu wasanaethau y gallech eu cael unwaith y byddwch yn bensiynwr. Gallwch hefyd chwilio am opsiynau pensiwn sy'n agored i chi os ydych yn cynllunio neu'n adolygu eich incwm ymddeol.
Neu ymwelwch ag adran A i Y ar wefan yr Adran Gwaith a Phensiynau am fwy o opsiynau.
Y Fargen Newydd 50 a Throsodd: Ewch i Gwaith â thâl
Y Gronfa Partneriaeth: Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau yn darparu arian byrdymor i sefydliadau lleol neu genedlaethol a’r sector gwirfoddol ar gyfer prosiectau sydd wedi’u cynllunio i wella’r nifer o bobl hyn sy’n cael hawliadau ac yn defnyddio gwasanaethau. Rhagor o wybodaeth am y Gronfa Partneriaeth
Y Rheoleiddiwr Pensiynau: Cewch ragor o wybodaeth am Y Rheoleiddiwr Pensiynau ar wefan yr Adran Gwaith a Phensiynau.
Ymddeol yn gynnar: Os byddwch yn ymddeol yn gynnar, ni allwch gael Pensiwn y Wladwriaeth nes i chi gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth, ond gallwch gael Rhagolwg Pensiwn, fel y gallwch weld faint o Bensiwn y Wladwriaeth y gallwch ddisgwyl ei gael yng ngwerth arian heddiw. Cewch ragor o wybodaeth am ymddeol yn gynnar ar wefan yr Adran Gwaith a Phensiynau
Ymgynghoriadau: Gwneir ymgynghoriadau ar reoliadau drafft a newidiadau i bolisïau drwy’r ganolfan adnoddau ar wefan yr Adran Gwaith a Phensiynau
Yn Gadarn o Blaid Oedran: Ymgyrch y Llywodraeth yw Yn Gadarn o Blaid Oedran i fynd i’r afael â gwahaniaethu ar sail oedran a hyrwyddo manteision busnes o ran amrywiaeth oedran yn y gweithle. I gael copi am ddim o Amrywiaeth Oedran yn y Gwaith, Canllaw Ymarferol i Fusnesau ffoniwch 08457 330360 neu ymwelwch â www.agepositive.gov.uk i gael rhagor o wybodaeth.
Ysbyty: Os ydych yn yr ysbyty, efallai bydd newid i unrhyw hawliadau rydych yn eu cael. Os ydych yn cael y Gwarant Isafswm Incwm, gallwch gael help gyda chostau teithio i’r ysbyty ac oddi yno. Cewch ragor o wybodaeth am fynd i’r ysbyty ar wefan yr Adran Gwaith a Phensiynau