Mae rhifau 0800 am ddim o linellau daear British Telecom(BT). Efallai bydd rhaid i chi dalu os ydych yn defnyddio cwmni ffôn arall neu ffôn symudol, neu os ydych yn ffonio o dramor. Gall galwadau o ffonau symudol gostio hyd at 40c y funud, felly gwiriwch y gôst gyda’ch darparwr rhwydwaith.
Ni ddylai galwadau i rifau 0845 o linellau daear BT gostio mwy na 4c y funud a codiad o 6c am gysylltu’r alwad. Efallai bydd rhaid i
chi dalu mwy os ydych yn defnyddio cwmni ffôn arall neu ffôn symudol, neu os ydych yn ffonio o dramor. Gall galwadau o ffonau symudol gostio
hyd at 40c y munud, felly gwiriwch y gôst gyda’ch darparwr rhwydwaith.
Ni ddylai galwadau i rifau 0845 o linellau daear BT gostio mwy na 8c y funud a codiad o 6c am gysylltu’r alwad. Efallai bydd rhaid i chi dalu mwy os ydych yn defnyddio cwmni ffôn arall neu ffôn symudol, neu os ydych yn ffonio o dramor.
Os yw’n well gennych, gallwch ofyn i ni eich ffonio yn ôl. Ffoniwch y rhif rydych ei angen, dywedwch wrth ein ymgynghorydd mai dyma beth rydych yn dymuno iddynt ei wneud a rhoi eich rhif ffôn iddynt.
Mae ffonau testun ar gyfer pobl sy’n ei chael yn anodd i siarad neu glywed yn glir. Byddwch angen ffôn testun i’w defnyddio.
Os nad oes gennych ffôn testun, efallai bod gan rai llyfrgelloedd neu Canolfan Cyngor ar Bopeth un. Nid yw ffonau testun yn derbyn negeseuon testun o ffonau symudol.
Canfyddwch eich llyfrgell cyhoeddus lleol ar wefan Directgov
Canfyddwch eich Canolfan Cyngor ar Bopeth lleol ar wefan Cyngor ar Bopeth