Pryd y mae angen i mi wneud cais?
Oedran Pensiwn y Wladwriaeth
Dyma’r oedran y gallwch wneud cais am eich Pensiwn y Wladwriaeth. Mae oedran Pensiw y Wladwriaeth ar gyfer merched yn newid, felly mae’n bwysig darganfod os bydd y newidiadau’n effeithio arnoch.
Ar hyn o bryd, oedran Pensiwn y Wladwriaeth i ddynion yw 65 a 60 i ferched. Ond mae hyn am newid i 65 i bawb. Bydd y newidiadau’n digwydd yn raddol rhwng 2010 a 2020.
Defnyddiwch y gyfrifiannell oedran Pensiwn y Wladwriaeth
Oedi cyn gwneud eich cais
Os byddwch yn gohirio hawlio Pensiwn y Wladwriaeth ar ôl Ebrill 2005, gallwch naill ai ennill Pensiwn ychwanegol gan y Wladwriaeth neu gael un taliad unswm trethadwy. Mae gwybod pa opsiynau sydd gennych yn help i chi wneud penderfyniadau gwell pan gyrhaeddwch chi oedran Pensiwn y Wladwriaeth


