Eich rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth
Cewch ragolwg Pensiwn y Wladwriaeth arlein
Gwelwch os gallwch gael rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth arlein. Bydd hyn yn dweud wrthych faint o Bensiwn y Wladwriaeth sylfaenol a Pensiwn y Wladwriaeth ychwanegol y gallech gael pan rydych yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth.
Cewch ragolwg pensiwn arlein yn syth ewasanaeth

Pensiwn y Wladwriaeth ar hyn o bryd
Amcangyfrifiad yw hwn o’r Pensiwn y Wladwriaeth sylfaenol ac ychwanegol y gallech gael ar oedran Pensiwn y Wladwriaeth yn seiliedig ar eich cofnod cyfraniadiau Yswiriant Gwladol (YG) ar y dyddiad mae’r rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth yn cael ei anfon at eich darparwr.
Mae’r ffigwr hwn yn cael ei roi i’ch helpu i gynllunio – nid yw’n warantedig.Dylech ddarllen y Gwybodaeth pwysig a anfonwyd gyda eich rhagolwg pensiwn cyfunol.
Fel arall, gallwch weld copi o’r wybodaeth hwn drwy ymweld â Rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth – gwybodaeth bwysig
Pensiwn y Wladwriaeth Y Dyfodol
Amcangyfrifiad yw hwn o’r Pensiwn y Wladwriaeth sylfaenol ac ychwanegol y gallech gael ar oedran Pensiwn y Wladwriaeth os ydych yn talu, yn cael eich trin fel eich bod wedi talu neu’n cael eich credydu gyda cyfradd lawn cyfraniadau Yswiriant Gwladol (YG) o ddyddiad y rhagolwg hyd at rydych yn cyrraedd oedran eich Pensiwn y Wladwriaeth.
Mae’r ffigwr hwn yn cael ei roi i’ch helpu – nid yw’n warantedig.Dylech ddarllen y Gwybodaeth bwysig a anfonwyd gyda eich rhagolwg pensiwn cyfunol.
Fel arall, gallwch weld copi o’r wybodaeth hwn drwy ymweld â Rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth – gwybodaeth bwysig


