Rhagolwg pensiwn cyfunol

Cyfraniadau Yswiriant Gwladol

Rydych yn talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol (YG) i gronni eich hawl i dderbyn rhai budd-daliadau nawdd cymdeithasol, gan gynnwys Pensiwn y Wladwriaeth. Mae'r math a'r lefel o gyfraniadau YG yr ydych yn eu talu'n dibynnu ar faint yr ydych yn ei ennill ac a ydych yn gyflogedig neu'n hunangyflogedig.

Byddwch yn stopio talu cyfraniadau YG pan gyrhaeddwch oedran Pensiwn y Wladwriaeth

Rhagor o wybodaeth am gyfraniadau Yswiriant Gwladol