Rhagolwg pensiwn cyfunol

Amgylchiadau arbennig

Gofalwyr

Os nad ydych wedi talu digon o gyfraniadau Yswiriant Gwladol (YG) oherwydd eich bod wedi bod yn edrych ar ôl plant neu gofalu am rhywun am y tymor hir, bydd y nifer o flynyddoedd cymhwyso y byddwch eu hangen yn cael ei ostwng. Gelwir hyn yn Ddiogelwch Cyfrifoldebau Cartref.

Rhagor o wybodaeth am Ddiogelwch Cyfrifoldebau Cartref

Neu, fel arall, gellwch ddarllen neu argraffu Pensiynau’r Wladwriaeth ar gyfer gofalwyr neu rieni [PM9]

Adnabyddiaeth rhyw

Os oes gennych Dystysgrif Adnabyddiaeth Rhyw lawn, telir eich budd-daliadau nawdd cymdeithasol ar sail eich rhyw caffaeledig. Felly gallai eich hawl i unrhyw fudd-dal neu bensiwn newid. Gallai hyn olygu cynnydd neu ostyngiad yn swm y budd-dal a delir i chi neu gall eich hawliad gychwyn neu ddod i ben.

Rhagor o wybodaeth ar wefan y Gender Recognition Panel

Dod o dramor

Yn ddibynnol ar y gwledydd rydych wedi gweithio ynddynt a’r cyfnod y buoch yn gweithio yno, gallech gael pension o’r oll neu rai ohonynt. Hefyd efallai y gall rhai blynyddoedd wedi’u treulio’n byw neu weithio dramor eich helpu i ddod yn gymwys am, neu wella, eich Pensiwn y Wladwriaeth y DU.