Mathau o Bensiynau’r Wladwriaeth
Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth
Pensiwn wedi’i weinyddu gan y llywodraeth yw hwn, yn seiliedig ar y nifer o flynyddoedd cymhwyso wedi’u hennill drwy gyfraniadau Yswiriant Gwladol (YG) rydych wedi’u talu, neu gael eich trin fel petaech wedi’u talu neu gael eich credydu, drwy eich bywyd gweithio.
Rhagor o wybodaeth am Bensiwn y Wladwriaeth sylfaenol
Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth
Telir y Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth, neu’r Ail Bensiwn y Wladwriaeth, yn ychwanegol i’r Pensiwn y Wladwriaeth sylfaenol. Hyd at Ebrill 2002, galwyd Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth yn Gynllun Pensiwn y Wladwriaeth yn Seiliedig ar Enillion (SERPS).


