Safonau / canlyniadau gwasanaeth cwsmer ac adborth cwsmer
Yn 2008/09 anelwn i ateb 80% o alwadau ffôn gan gwsmeriaid o fewn 45 eiliad.
Ein canlyniadau yn y 3 blynedd blaenorol oedd:
- 2007/08 atebwyd 81.1% o alwadau o fewn 45 eiliad
- 2006/07 atebwyd 61.5% o alwadau o fewn 30 eiliad
- 2005/06 atebwyd 67.0% o alwadau o fewn 30 eiliad
Yn 2008/09 anelwn i ateb 93% o’r holl alwadau a dderbynir.
Ein canlyniadau yn y dair blynedd blaenorol oedd:
- 2007/08 atebwyd 97.8% o’r holl alwadau a dderbynwyd
- 2006/07 atebwyd 90.6% o’r holl alwadau a dderbynwyd
- 2005/06 atebwyd 92.0% o’r holl alwadau a dderbynwyd
Yn 2008/09 anelwn i anfon rhagolygon pensiwn o fewn deg diwrnod gwaith.
Ein canlyniadau yn y 3 blynedd blaenorol oedd:
- 2007/08 ar gyfartaledd anfonwyd rhagolygon pensiwn o fewn 9 diwrnod gwaith
- 2006/07 ar gyfartaledd anfonwyd rhagolygon pensiwn o fewn 8 diwrnod gwaith
- 2005/06 ar gyfartaledd anfonwyd rhagolygon pensiwn o fewn 13 diwernod gwaith
Yn 2008/09 anelwn i ateb gohebiaeth o fewn 10 diwrnod gwaith.
Ein canlyniadau yn ystod y 3 blynedd blaenorol oedd:
- 2007/08 atebwyd 87% o ohebiaeth o fewn 10 diwrnod gwaith
- 2006/07 atebwyd 97% o ohebiaeth o fewn 10 diwrnod gwaith
- 2005/06 dim data ar gael
Yn 2008/09 anelwn i ateb cwynion o fewn 7 diwrnod gwaith.
Ein canlyniadau yn ystod y 3 blynedd blaenorol oedd:
- 2007/08 atebwyd 99% o gwynion o fewn 7 diwrnod gwaith
- 2006/07 atebwyd 73% o gwynion o fewn 7 diwrnod gwaith
- 2005/06 atebwyd 94% o gwynion o fewn 7 diwrnod gwaith
Mae canlyniadau yr arolwg cwsmer a wnaeth yn gynnar yn 2008 i’w gweld isod.
Roedd ein cwsmeriaid yn teimlo:
- Eu bod wedi cael eu trin gyda pharch: 98.5% yn cytuno
- Eu bod wedi cael eu trin fel unigolion 98.5% yn cytuno
- Ein bod wedi gwrando ar yr hyn ddywedwyd wrthym 97% yn cytuno
- Ein bod yn gymwynasgoar ac yn hawdd i siarad gyda 97.5% yn cytuno
- Ein bod yn rhoi eglurhad clir 94.5% yn cytuno
Adborth Cwsmer
Y 5 prif gwyn yn ystod Ebrill 2007 a Mawrth 2008 oedd
- Diffyg ateb i ohebiaeth
- Pryder y byddai gwybodaeth am gwsmer yn cael ei ddatgelu i drydedd parti oherwydd i lythyrau gael eu hanfon at gwsmeriaid mewn amlenni a oedd heb eu selio neu wedi rhwygo.
- Ansawdd y gwasanaethau rhyngrwyd
- Cofnodi manylion cwsmer yn anghywir ac o ganlyniad rhagolygon anghywri yn cael eu hanfon allan neu ddim yn cael eu derbyn.
- Staff ddim yn cymryd cyfrifoldeb ac ddim yn datrys anhawsterau
Mewn ymateb i’r cwynion hyn rydym wedi gweithredu y canlynol:
- Newid ein trefniadau ar gyfer prosesu llythyrau ac anfon atebion at gwsmeriaid
- Hyfforddiant parhaus i’n staff
- Annog ein staff i gymryd cyfrifoldeb o unrhyw anhawsterau sydd gan y cwsmer.
- Cyflwyno Gweithgor Ffocws / Gwelliannau i edrych ar adborth cwsmer a chyflwyno gwelliannu i’n trefniadau gwaith os yn briodol
Y 5 prif ganmoliaeth oedd:
- Agwedd gymwynasgar ac amyneddgar y staff
- Rhoi gwybodaeth ar lafar yn glir ac heb ddefnyddio jargon
- Rhoi gwybodaeth clir mewn gohebiaeth
- Cyfeirio cwmeriaid at rannau gwahanol o’r Gwasanaeth Pensiwn
- Argaeledd rhwydd i’n gwasanaethau


