Archwiliwr Achos Annibynnol
Os ydych yn teimlo nad yw’r Gwasanaeth Pensiwn wedi delio â’ch cwyn yn gywir pan dderbyniwch ymateb, gallwch ysgrifennu at yr Archwiliwr Achos Annibynnol.
Mae’r Archwiliwr Achos Annibynnol yn edrych i fewn i gwynion ynglyn â’r Gwasanaeth Pensiwn gan bobl sydd ddim yn hapus ar sut mae’r Gwasanaeth Pensiwn wedi trin eu hachos. Mae’r Archwiliwr Achos Annibynnol yn annibynnol o’r Gwasanaeth Pensiwn ac nid oes tâl am ddefnyddio’r gwasanaeth.
Cyn i’r Archwiliwr Achos Annibynnol dderbyn eich achos, mae’n rhaid iddynt fod yn fodlon fod Y Gwasanaeth Pensiwn wedi cael y cyfle i ddelio â’ch cwyn. Byddant yn edrych i fewn i’ch cwyn cyn belled ac y cysylltwch â hwy o fewn chwe mis o dderbyn yr ateb terfynol gan y Prif Weithredwr.
Bydd yr Archwiliwr Achos Annibynnol yn archwilio achos os:
ydynt yn fodlon eich bod wedi derbyn ymateb terfynol i’ch cwyn gan ein Prif Weithredwr’
Ni all yr Archwiliwr Achos Annibynnol edrych ar gwyn os:
- Nad yw’r Gwasanaeth Pensiwn wedi cael y cyfle i ddatrys yr achos gyntaf
- oes chwe mis neu fwy ers ymateb terfynol Y Gwasanaeth Pensiwn
- yw’r gwyn ynglyn â deddfwriaeth
- yw’r gwyn benodol wedi cael, neu yn cael ei ymchwilio gan yr Ombwdsman Seneddol a Gwasanaeth Iechyd
- mae’r gwyn yn destun gweithrediadau cyfreithiol, fel adolygiad barnwrol.
Gallwch gael hyd i fwy ynglyn â’r Archwiliwr Achos Annibynnol o’r daflen Swyddfa’r Archwiliwr Achos Annibynnol – ein gwasanaeth a safonau neu ar wefan Yr Archwiliwr Achos Annibynnol


