Gwelliannau i'n gwasanaeth o ganlyniad i adborth cwsmer
Rydym yn cymryd eich cwynion o ddifrif ac o ganlyniad yn anelu i wella ein gwasanaethau. Dyma rai esiamplau o’ch adborth a beth rydym yn ei wneud i wella pethau i’n cwsmeriaid
Ni allaf bob amser yn gysylltu â chi pan rwyf eisiau.
Rydym wedi estyn ein horiau gweithredol i roi gwasanaeth cwsmer gwell.
Nid ydych bob tro yn rhoi’r wybodaeth iawn i mi
Mae cymhorthion hyfforddiant ychwanegol wedi cael ei roi i staff sydd wedi helpu i godi cywirdeb y wybodaeth rydym yn ei roi i’n cwsmeriaid.
Nid ydwyf bob tro yn cael fy nhrosglwyddo i’r person iawn i helpu gyda’m hymholiad.
Rydym wedi anfon nodyn i staff i helpu i sicrhau bod cwsmeriaid yn cael eu trosglwyddo i’r person y gall helpu orau gyda’u hymholiad yn effeithiol a sydyn
Roedd gennych broblem gyda’ch sustem TG a oedd yn golygu na allech ddangos fy rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth
Fel ateb dros dro rydym wedi cynhyrchu’r rhagolygon â llaw i’r cwsmeriaid hynny a gafodd eu heffeithio
Nid ydych bob tro yn cofnodi eich bod wedi derbyn fy llythyrau
Rydym nawr yn sganio unrhyw gyfathrebiad a dderbynnir ac yn ei nodi ar ein sustem TG. Mae hyn yn ei gwneud hi’n haws i gael hyd i gyfathrebiad perthnasol os yw’r cwsmer yn ffonio gydag ymholiad.
Nid ydych pob tro yn ffonio’n ôl pan ddywedwch y buasech
Rydym wedi cyflwyno proses cwsmer newydd o ‘ffonio’n ôl’ i wneud yn sicr ein bod yn ffonio cwsmeriaid yn ôl o fewn yr amser a gytunwyd.
Fe dorrodd amlen drwchus a anfonwyd gan Ganolfan Bensiwn yn y post
Cytunom y dylid anfon eitemau trwchus mewn parSel wedi’i gau a’i diogelu gan amlen polythene. Anfonwyd neges ‘ymarfer da’ i staff yn y Ganolfan Bensiwn.
Mae’r rhan gohirio o gais newydd Pensiwn y Wladwriaeth yn cymryd amser hir
Rydym yn blaenoriaethu ein achosion gohirio i sicrhau eu bod yn cael eu gwneud ynghynt.
Weithiau rwyf yn derbyn ‘slipiau cyfarchion’ anghywir neu nid ydynt wedi’u llenwi i fewn i gyd
Rydym wedi rhoi’r slipiau cyfarchion cywir yn llythyr newyyddion ein staff gyda chyfarwyddyd ar sut i’w gwblhau.
Rwyf yn cael problemau gwirio dogfennau sydd eu hangen ar Taliadau Tanwydd Gaeaf
Rydym wedi siarad gyda’n cyd-weithwyr yn y Ganolfan Byd Gwaith ac wedi cynhyrchu hysbysiad yn eu hatgoffa o pa weithred sydd angen ei gwneud.


