Gwneud cŵyn
Gallwn ddatrys y rhan fwyf o gwynion os wnewch ddweud wrthym yn syml am y broblem.
Os nad ydych yn hapus gyda rhywbeth rydym wedi ei wneud, neu rydych yn meddwl nad ydym wedi gwneud rhywbeth y dylem, cysylltwch â’ch canolfan bensiwn.
- Egwyddorion ac ymrwymiadau sylfaenol
- Sut i gwyno
- Beth i’w wneud os ydych yn anhapus gyda canlyniad y gwyn
- Beth sy’n digwydd os nad ydych yn hapus gyda’r ffordd y cafodd eich cwyn ei delio â hi
- Gallwch gael help i wneud eich cwyn
- Adroddiad Flynyddol Adborth Cwsmer
Egwyddorion ac ymrwymiadau sylfaenol
Rydym yn anelu i ddarparu y gwasanaeth gorau posibl pob amser. Os teimlwch fod ein gwasanaeth yn disgyn yn fyr o hyn, mae’n bwysig eich bod yn dweud wrthym.
Os ydym wedi gwneud camgymeriad fe wnawn:
- Dweud bod yn ddrwg gennym
- Esbonio beth aeth o’i le a pham
- Gwneud pethau’n iawn cyn gynted â phosibl
Byddwn yn eich trin yn deg a gwneud yn siwr na fydd unrhyw sylwadau neu gwyn a wnewch yn effeithio ar y gwasanaeth â roddwn i chi neu’r arian mae gennych hawl iddo.
Rydym yn anelu i ateb eich cwyn o fewn 7 diwrnod gwaith. Os na allwn ddelio yn llawn gyda’ch cwyn o fewn yr amser hyn, byddwn yn dweud pam wrthych a gadael i chi wybod os oes angen i chi wneud rhywbeth a pha bryd y gallech ddisgwyl ateb llawn.
Sut i gwyno
Rydym eisiau datrys problemau’n gyflym ac arbed iddynt ddigwydd eto. Dyma pam rydym eisiau i chi roi eich adborth i’r man lle dechreuodd y broblem. Mae hyn yn sicrhau fod problemau’n cael eu dadansoddi’n gyflym, gwersi’n cael eu dysgu a phrosesau’n newid i arbed digwyddiadau o’r fath ddigwydd yn y dyfodol. Os oes gennych gwyn, cysylltwch â’ch canolfan bensiwn drwy ffonio, post, ffacs neu ebost.
Cysylltwch â’ch canolfan bensiwn
Beth i’w wneud os ydych yn anhapus gyda canlyniad eich cwyn
Os nad ydych yn hapus gyda’r ffordd mae eich canolfan bensiwn yn delio â’ch cwyn ac rydych eisiau mynd a’r mater ymhellach, gallwch gysylltu â rheolwr y ganolfan bensiwn. Gallwch ddod o hyd i’w gyfeiriad ar y llythyrau rydym wedi eu hanfon atoch neu drwy ein ffonio ar 0845 60 60 275.
Os ydych yn anhapus o hyd, gallwch ysgrifennu i’r Prif Weithredwr, Terry Moran, yn:
The Pension Service
PO Box 50101
London
SW1P 2WU
Bydd eich cwyn yn cael ei ystyried pob amser drwy ddefnyddio’r proses hwn. Er enghraifft, os ydych yn cysylltu â’r Prif Weithredwr ond heb gael ateb gan eich canolfan bensiwn, bydd eich cwyn yn cael ei anfon yna’n gyntaf.
Beth fydd yn digwydd os nad ydych yn hapus gyda’r ffordd y cafodd eich cwyn ei delio â hi.
Os, ar ôl derbyn ymateb gan, neu ar ran y Prif Weithredwr, rydych yn dal i deimlo nad yw’r Gwasanaeth Pensiwn wedi delio â’ch cwyn yn iawn, gallwch ysgrifennu at yr Archwiliwr Achos Annibynnol. Mae'r ICE yn cynnig gwasanaeth cyfryngiad ac adolygiad, sydd yn hawdd ei gyrraedd ac am ddim, i'r rhai mae eu cwynion yn parhau heb eu datrys. Bydd ein ymateb yn eich cynghori sut i gysylltu â’r Archwiliwr Achos Annibynnol.
Gallwch gael help i wneud eich cwyn
Os hoffech rhywfaint o help i wneud cwyn am y gwasanaeth rydych wedi ei dderbyn gan Y Gwasanaeth Pensiwn, gallech wneud y canlynol:
Gofyn am gyngor gan sefydliad fel eich Age Concern neu Canolfan Cyngor ar Bopeth lleol.
Siarad gyda Aelod Seneddol (AS)
Gall AS ofyn hefyd i’r Ombwdsman Gwasanaeth Seneddol a Iechyd edrych i fewn i’ch cwyn.
Bydd yr Ombwdsman yn disgwyl i chi yn gyntaf godi’r mater gyda’r Gwasanaeth Pensiwn a gadael i ni ddatrys y broblem os y gallwn. Ni fydd hi fel arfer yn ymyrryd â chwyn cyn i hyn fod wedi ddigwydd ac rydych wedi mynd â’ch cwyn drwy ein dulliau cwynion, yn cynnwys pan yn addas, wedi cael adolygu’r mater gan Archwiliwr Achos Annibynnol yr adran.
Mae’r daflen “Dywedwch wrthym sut i wella ein gwasanaeth” yn esbonio proses cwyno’r Gwasanaeth Pensiwn.


