Ombwdsman Seneddol
Gall eich AS ofyn hefyd i’r Ombwdsman Seneddol a Gwasanaeth Iechyd edrych i fewn i’ch cwyn.
Mae’r Ombwdsman yn ymchwilio cwynion gan aelodau o’r cyhoedd, â gyfeirwyd gan Aelod Seneddol, ple maent wedi dioddef anghyfiawnder oherwydd camweinyddiaeth gan adrannau y Llywodraeth neu gyrff cyhoeddus arbennig eraill. Mae camweinyddiaeth yn golygu’n gyffredinol gweinyddiaeth wael neu’r defnydd anghywir o reolau.
Mae’r Ombwdsman yn annibynnol o’r Llywodraeth ac nid yw’n wâs sifil. Mae’r Ombwdsman yn swyddog o Dy’r Cyffredin wedi cael ei apwyntio gan y Frenhines ac sy’n adrodd i’r Senedd. Mae cwynion i gyd yn gyfrinachol, mae’r ymchwiliadau yn breifat ac nid oes tâl am y gwasanaeth â ddarperir.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am Ombwdsman Seneddol a Gwasanaeth Iechyd o’u gwefan


