Cynlluniau pensiwn rhanddeiliaid

Cysylltau perthnasol

Gwahaniaethu ar sail oedran

Deddfwriaeth gwahaniaethu ar sail oedran

O Hydref 2006 bydd deddfwriaeth newydd yn gwahardd gwahaniaethu ar sail oedran mewn gwaith a hyfforddiant galwedigaethol.

Sefydlwyd ac ariannwyd Y Grwp Partneriaeth Oedran gan yr Adran Gwaith a Phensiynau i ddarparu cyngor ar sut i baratoi ar gyfer cyflwyno y ddeddfwriaeth newydd. Cewch mwy o wybodaeth am y grwp Partneriaeth Oedran ar wefan Be Ready

Roedd yr ymgynghoriad - Cydraddoldeb ac Amrywiaeth: Materion Oedran - yn gofyn am eich barn ar nifer o faterion yn cynnwys:

  • diddymu oedrannau ymddeol gorfodol oni bai bod cyflogwyr yn gallu cyfiawnhau yn wrthrychol yr angen i ddiswyddo ar oedran penodol
  • recriwtio
  • dethol a dyrchafu
  • buddiannau cyflog a dim cyflog
  • diswyddo annheg
  • yswiriant yn gysylltiedig â chyflogaeth
  • taliadau diswyddo statudol

Gallwch ddarllen neu argraffu’r ddogfen ymgynghorol Mae Oed yn Bwysig ar wefan Adran dros Ddiwygio, Busnes, Menter a Rheoleiddio