Mynediad i gyflogeion
Efallai na fydd yn rhaid i chi ddarparu mynediad i bensiwn rhanddeiliaid i bob un o'ch cyflogeion. Nid oes rhaid i chi ddarparu mynediad i unrhyw gyflogai:
- sydd wedi gweithio i chi am lai na thri mis yn olynol
- sy'n aelod o'ch cynllun pensiwn galwedigaethol
- na all ymuno â'ch cynllun galwedigaethol oherwydd eu bod o dan 18 oed neu o fewn pum mlynedd o oedran pensiwn arferol y cynllun
- sydd wedi penderfynu peidio ag ymuno â chynllun pensiwn galwedigaethol
- y mae eu henillion wedi disgyn yn is na therfyn enillion is Yswiriant Gwladol am wythnos neu fwy o fewn y 3 mis diwethaf
- na all ymuno â chynllun pensiwn rhanddeiliaid oherwydd cyfyngiadau Cyllid y Wlad (er enghraifft, nid yw'r cyflogai fel arfer yn byw yn y DU)


