Eithriadau
Mewn rhai amgylchiadau, gallech gael eich eithrio o'r gofyniad i ddarparu mynediad i gynllun rhanddeiliaid i'ch cyflogeion. Gallech gael eich eithrio os ydych yn:
- cyflogi llai na phum person
- cynnig pensiwn personol i bob cyflogai sy'n 18 oed a throsodd lle rydych chi'n cyfrannu swm sydd gyfartal ag o leiaf 3 y cant o gyflog sylfaenol y cyflogai
- cynnig cynllun pensiwn galwedigaethol y gall pob aelod o'ch staff ymuno ag ef o fewn blwyddyn o ddechrau gweithio i chi
Os oes gennych gynllun galwedigaethol neu drefniant gyda darparwr pensiwn personol (a elwir yn gynllun pensiwn personol grwp yn aml), cysylltwch â darparwr y cynllun i weld a yw'n bodloni'r gofynion i gael eich eithrio.
Beth os wyf wedi cael fy eithrio ond yn dal am ddarparu pensiwn rhanddeiliaid?
Hyd yn oes os ydych wedi'ch eithrio gallwch roi mynediad i gynllun pensiwn
rhanddeiliaid i'ch cyflogeion o hyd os ydych am wneud hynny.


