Cwestiynau a ofynir yn aml
- A oes angen i mi ddarparu mynediad i gynllun pensiwn ar gyfer fy nghyflogeïon?
- Beth sydd angen i mi ei wneud i drefnu mynediad i rhyw fath o gynllun pensiwn ar gyfer fy nghyflogeion?
- Beth yw rhagolwg pensiwn cyfunol?
- Beth mae’r Llywodraeth yn ei wneud i helpu cyflogwyr?
- Beth yw’r Comisiwn Pensiynau?
- Beth yw’r Gweithlu Cyflogwr ar Bensiynau?
- Beth yw’r Gronfa Diogelu Pensiwn?
- Beth yw’r Cynllun Cymorth Ariannol?
- Ble rwyf yn mynd i ddarganfod mwy am bensiynau?
- Ble gallaf gael mwy o wybodaeth ar gynlluniau pensiwn
ar gyfer fy ngyflogeion?
A oes angen i mi ddarparu mynediad i gynllun pensiwn ar gyfer fy nghyflogeion?
Ers Hydref 2001, mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i fusnes
gyda phump neu fwy o gyflogeion i ddarparu mynediad i gynllun pensiwn
cyfranddeiliaid, os nad ydyw wedi’i eithrio. Nid yw hyn yn golygu
fod rhaid i chi ddarparu cyfraniad i gynllun pensiwn cyfranddeiliaid eich
cyflogwr, ond eich bod yn gallu gwneud hynny.
Darganfyddwch fwy am y gyfraith
ac os yw eich busnes wedi’i eithrio
Nid yw’n gyfreithiol ofynnol ar eich busnes i ddarparu cynllun pensiwn galwedigaethol neu drefniant pensiwn personol grwp. Trefniadau pensiwn gwirfoddol yw’r rhain y gellwch eu gosod yn eu lle i ddarparu buddion ymddeol a marwolaeth ar gyfer eich cyflogeion a’u dibynyddion.
Fodd bynnag, mae llawer o gyflogwyr yn dweud y gall darparu pensiwn da helpu i recriwtio a chadw staff. Mae’n dangos eich bod yn gwerthfawrogi eich cyflogeion ac fe all gael manteision treth ac yswiriant gwladol i chi fel cyflogwr. Darganfyddwch fwy am gynlluniau pensiwn gwahanol ar gyfer eich cyflogeion
Beth sydd angen i mi ei wneud i drefnu mynediad i rhyw fath o gynllun pensiwn ar gyfer fy nghyflogeion?
Y cam cyntaf yw penderfynu pa fath o gynllun rydych am ei gynnig. Caiff
pensiynau cyfranddeiliaid a phensiynau personol grwp eu rhedeg gan ddarparwyr
pensiwn tra bod pensiynau galwedigaethol yn cael eu trefnu gan gyflogwr.
Darganfyddwch fwy am yr opsiynau pensiwn rhain
Cofiwch, os oes gan eich busnes o leiaf bump o gyflogeion, mae’n rhaid i chi gynnig mynediad i gynllun pensiwn cyfranddeiliaid ar gyfer eich holl staff trwy gyfraith (os nad ydych wedi’ch eithrio).
Nesaf byddwch angen ystyried faint gall eich busnes ei fforddio i dalu i mewn i’r cynllun. Os na all eich busnes fforddio cyfrannu i bensiynau eich cyflogeion, efallai mai pensiwn cyfranddeiliaid fyddai eich opsiwn gorau. Fodd bynnag, byddem yn eich annog i gael y wybodaeth a chyngor addas cyn penderfynu pa fath o ddarpariaeth pensiwn y byddwch yn ei roi ar gael.
Os ydych yn dewis cynllun pensiwn cyfranddeiliaid, byddwch angen dewis
darparwr cofrestredig. Mae’r Rheolydd Pensiynau’n cadw cofrestr
o holl gynlluniau cyfranddeiliaid.
Darganfyddwch fwy am
gynlluniau pensiynau cyfranddeiliaid ar wefan y Rheolydd Pensiynau
Nid oes angen i chi ymgynghori gyda’ch cyflogeion ar eich dewis o gynllun.
Darganfyddwch fwy am hyn a gofynion eraill yn ein canllaw
Os ydych yn penderfynu cynnig pensiwn galwedigaethol, ystyriwch os gellwch chi sefydlu a rhedeg cynllun yn fewnol neu os buasai’n well i chi ei roi i arbenigwr allanol. Eto, buasem yn eich annog i gael mwy o wybodaeth a chyngor i’ch helpu i wneud y penderfyniad hwn.
Gall y Rheolydd Pensiynau eich darparu gyda chyfarwyddyd technegol i’ch
helpu i sefydlu cynllun pensiwn galwedigaethol.
Darganfyddwch fwy ar
wefan y Rheolydd Pensiynau
Darganfyddwch
fwy am bensiynau galwedigaethol ar wefan y Cyswllt Busnes
Darganfyddwch fwy am bensiynau galwedigaethol
o wefan Cyllid a Thollau EM
Beth yw rhagolwg pensiwn gyfunol?
Mae rhagolwg pensiwn gyfunol yn caniatáu i’ch cyflogai gael gweld rhagolwg o’u darpariaeth gwladwriaeth a phensiwn preifat cyfredol gyda’u gilydd. Mae’n cyfuno manylion o’r Pensiwn y Wladwriaeth cyfredol mae’ch cyflogai wedi’i adeiladu a Phensiwn y Wladwriaeth amcanol hyd at oedran Pensiwn y Wladwriaeth. Rydym yn eich darparu gyda’r wybodaeth yma am ddim i chi ei gynnwys yn y datganiadau pensiwn rydych yn eu hanfon I’ch cyflogeion.
Nid yw’r rhagolwg yn gwarantu y bydd cyflogai’n derbyn unrhyw
symiau penodol ar ymddeoliad. Mae cyflogai’n cael braslun o’r
hyn mae ei hawliadau pensiwn ar ymddeoliad yn debygol o fod, yn seiliedig
ar wybodaeth gyfredol. Pwrpas hyn yw i helpu’ch cyflogai i wneud
penderfyniadau rhesymol a deallus pan yn cynllunio ar gyfer eu dyfodol.
Darganfyddwch fwy am ragolygon
pensiwn cyfunol trwy gofrestru eich diddordeb trwy ein ffurflen ar lein.
Neu gellwch ffonio Rheolwr Cyfrif Cwsmer ar 0870 010 1684, dydd Llun
i ddydd Gwener, 9am tan 5pm.
Beth mae’r Llywodraeth yn ei wneud i helpu cyflogwyr?
Mae’r Llywodraeth yn cydnabod rôl hollbwysig cyflogwyr yn y system bensiwn ac maent wedi cyflwyno diwygiadau i:
- Wneud y system yn symlach ar eich cyfer chi fel cyflogwyr: Mae cynigion yn y Mesur Cyllid 2006, er enghraifft, yn symleiddio'r system bensiynau trwy ddileu tros 350 o dudalennau o ddeddfwriaeth gymhleth a tua 1000 o dudalennau o gynghorion.
- Wneud y system yn fwy hyblyg ar eich cyfer chi fel cyflogwyr: Mae anghenion cyllido newydd yn rhoi rhyddid a hyblygrwydd i ymddiriedolwyr i ddatblygu strategaethau cyllido mwy effeithiol.
- Ei gwneud yn haws i chi ddweud wrth eich cyflogeion am eu pensiynau: Mae newidiadau i’r Ddeddf Gwasanaeth Ariannol a Marchnata’n (FSMA) yn golygu os ydych yn gwneud cyfraniad i bensiwn cyfranddeiliaid neu bensiwn personol grwp, y byddwch yn gallu dweud wrth eich staff am y cynlluniau.
- Helpu eich cyflogeion i ddeall gwerth cyfraniadau cyflogwr: Rydym yn codi ymwybyddiaeth o werth cyfraniadau pensiwn cyflogwyr ynghyd â buddion recriwtio a chadw.
- Darparu sawl biliwn mewn rhyddhad treth i bensiynau bob blwyddyn: Darganfyddwch fwy am ryddhad treth mae’r Llywodraeth yn ei gynnig i gyflogwyr gyda phensiynau.
Darganfyddwch fwy am ryddhad treth cynllun pensiwn o wefan Cyllid a Thollau EM
Beth yw’r Comisiwn Pensiynau?
Sefydlwyd y Comisiwn Pensiynau gan y Llywodraeth i edrych ar dueddiadau tymor hir mewn cynilion pensiynau ac os oes angen symud tu hwnt i’r system wirfoddol gyfredol.
Rhyddhaodd y Comisiwn Pensiynau adroddiad baslinell gychwynnol ym mis Hydref 2004 yn dadansoddi’r system bensiwn preifat ar y pryd hynny. Roedd yn gosod allan pedair prif opsiwn ar gyfer eu gweithredu.
Gwnaeth y Comisiwn argymhellion fwy manwl yn ei ail adroddiad,
ryddhawyd ar 30 Tachwedd 2005.
Darllenwch neu argraffwch
adroddiadau cyntaf ac ail y Comisiwn Pensiynau neu grynodeb o’r
nail neu’r llall
Beth yw’r Gweithlu Cyflogwr ar Bensiynau?
Sefydlwyd y Gweithlu Cyflogwr ar Bensiynau gan y Llywodraeth i dynnu ar brofiad busnes a dyfeisgarwch, adnabod a hyrwyddo arferion da mewn darpariaeth pensiwn.
Cadarnhaodd adroddiad y Gweithlu Cyflogwr, gyhoeddwyd ym
mis Rhagfyr 2004, fod gan gyflogwyr rôl allweddol i’w chwarae
yn narpariaeth pensiwn. Mae’r Gweithlu hefyd wedi cyhoeddi canllaw
arferion da a Chyfathrebiadau Pensiynau, gan gydnabod gwerth, gynhyrchwyd
ar y cyd gyda’r Chartered Institute of Personnel and Development.
Darllenwch
neu argraffwch gopiau o gyhoeddiadau’r Gweithlu Cyflogwr o’u
gwefan
Yn dilyn argymhelliad gan y Gweithlu, mae’r Llywodraeth wedi datblygu
gwefan ar gyfer cyflogwyr gydag esiamplau o arferion da a chanllawiau
ar bensiynau.
Darganfyddwch rhai cynghorion
defnyddiol ac enghreifftiau bywyd real arferion da ar gyfer mynd i’r
afael â phensiynau ar wefan Pensiynau ar Waith
Beth yw’r Gronfa Diogelu Pensiwn?
Mae’r Gronfa Diogelu Pensiwn (PPF) yn diogelu aelodau o gynlluniau buddion diffiniedig a’r elfen buddion diffiniedig o gynlluniau hybrid trwy dalu iawndal os bydd eu cyflogwyr yn mynd yn fethdalwr a’r cynllun pensiwn heb gyllid digonol.
Yn fras, mae’r PPF yn darparu lefel o100% o iawndal i aelodau dros oedran arferol pensiwn a lefel o 90% o iawndal i aelodau dan oedran pensiwn, yn amodol ar gap hollgynhwysfawr.
I gael cronfa ddigonol ar gyfer talu iawndal, mae’r
PPF yn codi ardoll gorfodol blynyddol ar yr holl gynlluniau cymwys a chymryd
yr asedau sy’n weddill o unrhyw gynllun cwmni sy’n fethdaliadol
sy’n ymuno â’r Gronfa. Yn ddiweddar cwblhaodd y PPF
broses ymgynghori ar y strwythur ardoll a byddant yn cyhoeddi’r
canlyniadau, ynghyd âg amcangyfrif o swm ardoll 2006/2007, yn yr
wythnosau nesaf.
Darganfyddwch fwy
ar wefan y Gronfa Diogelu Pensiwn
Beth yw’r Cynllun Cymorth Ariannol?
Mae’r Cynllun Cymorth Ariannol (FAS) yn cynnig help i rai pobl sydd wedi colli allan ar eu pensiwn oherwydd nad oedd gan y cynllun roeddent yn aelod ohono gyllid digonol pan gychwynwyd dod a’r cynllun i ben, a bod y cyflogwr yn fethdalwr neu ddim yn bodoli mwyach.
Mae’r Cynllun Cymorth Ariannol (FAS) wedi’i ymestyn fel y bydd yn helpu amcangyfrif o 125,000 o bobl â gollodd allan. Bydd pobl â colledion yn cael ychwanegiad hyd at 80 y cant o’u pensiwn craidd disgwyliedig. Mae hyn yn golygu ymrwymiad o £8bn mewn termau ariannol dros oes y cynllun [£1.9bn net mewn gwerth presennol].
Darganfyddwch fwy am y Cynllun Cymorth Ariannol ar wefan yr Adran Gwaith a Phensiynau
Ble rwyf yn mynd i ddarganfod mwy am bensiynau?
Mae llawer o wefannau gyda mwy o wybodaeth ar bensiynau.
Gwefan y llywodraeth yw Cyswllt Busnes sy’n cynnig
cyngor ymarferol ar gyfer busnes ar ystod o bynciau yn cynnwys pensiynau.
Darganfyddwch
fwy ar wefan y Cyswllt Busnes
Mae gan Cyllid a Thollau EM wybodaeth ynglyn
â phensiynau a threth ac yswiriant gwladol.
Darganfyddwch sut y gellwch ffeilio ffurflen
cynllun pensiwn arlein ar wefan Cyllid a Thollau EM.
Darganfyddwch
fwy am bensiynau cyfranddeiliaid ar wefan Cyllid a Thollau EM.
Mae gan wefan Pensiynau ar Waith ganllawiau
ymarfer da ac astudiaethau achos ar sut i sefydlu a gweithredu cynllun
pensiwn.
Darganfyddwch fwy ar wefan
Pensiynau ar Waith
Mae gan y Rheolydd Pensiynau wybodaeth ar y rhwydwaith rheolyddol
ar gyfer pensiynau a chyfarwyddyd i gyflogwyr ar eu hymrwymiadau. Mae
hefyd yn dal y gofrestr o’r holl gynlluniau pensiwn cyfranddeiliaid.
Darganfyddwch fwy ar
wefan y Rheolydd Pensiynau
Ble gallaf gael mwy o wybodaeth ar gynlluniau pensiwn ar gyfer fy ngyflogeion?
Mae gan wefan yr Adran Gwaith a Phensiynau
wybodaeth ar gyfer unigolion ar ble i ddod o hyd i wybodaeth ar gwestiynau
cyffredin ynglyn â phensiynau.
Darganfyddwch
fwy ar wefan yr Adran Gwaith a Phensiynau
Yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol yw’r
corff llywodraethol sefydlwyd i reoleiddio a darparu gwybodaeth ar gynhyrchion
pensiwn.
Darganfyddwch
fwy ar wefan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol
Cyfundrefn annibynnol, di-elw yw’r Gwasanaeth
Cynghori Pensiynau yn darparu gwybodaeth a chyfarwyddyd ar bensiynau.
Mae hefyd yn cynnig help i aelodau o’r cyhoedd sydd â phroblem,
cwyn neu anghydfod gyda’u trefniadau pensiwn galwedigaethol neu
breifat.
Darganfyddwch fwy ar wefan y Gwasanaeth
Cynghori Pensiynau


