Cynlluniau pensiwn rhanddeiliaid

Cysylltau perthnasol

Cyflogwyr a phensiynau

Partneriaeth pensiynau

Mae'r Llywodraeth am i bob pensiynwr gael incwm gweddus a diogel ar ôl ymddeol ac i rannu'n deg yn ffyniant cynyddol y wlad. Mae hyn yn golygu, ymysg pethau eraill, sicrhau bod pobl yn annibynnol ac wedi'u diogelu mewn ymddeoliad. Mae pobl yn byw'n hirach nag erioed o'r blaen, ac mae hyn yn dod â heriau newydd.

Mae angen i gyflogwyr a'r Llywodraeth gyd-weithio mewn partneriaeth, gydag unigolion a'r diwydiant gwasanaethau ariannol, i helpu pobl i gynllunio ar gyfer eu hymddeoliad ac i wneud dewisiadau hyddysg am sut a phryd i gynilo a pha mor hir y dylid gweithio.

Mae gan gyflogwyr rôl amlwg i'w chwarae yn y bartneriaeth drwy ddarparu mynediad, gwybodaeth a chyfraniadau i bensiynwyr a'u cyflogeion. Mae'r gweithle yn lle effeithiol i bobl gynilo - mae gwaith gweinyddol yn fwy effeithlon ac mae manteision treth i'r cyflogwr a'r cyflogai.

Newidiadau i bensiynau

Mae’r Ddeddf Pensiynau 2007 yn gwneud newidiadau i system pensiynau’r wladwriaeth y DU. Ar y cyfan, dim ond os ydych yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar 6 Ebrill 2010 neu ar ôl hynny y bydd y newidiadau hyn yn effeithio arnoch.

Darganfyddwch mwy am y newidiadau i Bensiwn y Wladwriaeth y DU

Pensiynau ar gyfer eich cyflogeion

Ydych chi'n darparu cynllun pensiwn cwmni (pensiwn galwedigaethol) ar gyfer eich cyflogeion?

Os nad ydych yn darparu cynllun pensiwn galwedigaethol i'ch cyflogeion, yna fwy na thebyg mae'n ofynnol i chi gan y gyfraith i gynnig mynediad i gynllun pensiwn rhanddeiliaid i'ch cyflogeion i'w helpu i gynilo ar gyfer eu hymddeoliad.

Mae hefyd eithriadau sy'n berthnasol i rai cyflogwyr. I weld a ydych wedi'ch eithrio ewch i'n hadran pensiwn rhanddeiliaid, byddwn yn dweud wrthych p'un a yw'n ofynnol i chi yn ôl y gyfraith i gynnig mynediad i gynllun pensiwn i'ch cyflogeion.

Mae'r adran hon hefyd yn dweud wrthych sut i ddarparu mynediad o'r fath.

Mae newidiadau i'r Ddeddf Gwasanaeth a'r Farchnad Ariannol bellach yn ei wneud yn haws i gyflogwyr hyrwyddo eu pensiwn gweithle eu hunain i gyflogeion.

Rhagolygon pensiwn cyfunol

Os ydych yn cynnig pensiwn galwedigaethol, yna efallai y gallwch helpu'ch cyflogeion ymhellach drwy ddarparu rhagolwg pensiwn cyfunol iddynt.

Mae ein gwasanaeth am ddim yn caniatáu i'ch cyflogeion weld faint o arian maent yn debygol o ennill o'u Pensiwn y Wladwriaeth a'u pensiwn galwedigaethol. Bydd hyn yn helpu eich cyflogeion i wneud penderfyniadau hyddysg am eu hymddeoliad.

Rhagor o wybodaeth am sut i gymryd rhan mewn rhagolygu pensiwn cyfunol

Symleiddio Treth Pensiynau

O 6 Ebrill 2006 bydd cyfundrefn dreth newydd ar gyfer pensiynau o'r enw Symleiddio Treth Pensiynau. Bydd yn disodli'r wyth cyfundrefn dreth bresennol gydag un. Cewch ragor o wybodaeth am Symleiddio Treth Pensiynau ar wefan Cyllid y Wlad