Rwy'n gyflogwr

Cysylltau perthnasol

Darparu mynediad i bensiynau rhanddeiliaid

Eich cam cyntaf yw dewis cynllun pensiwn rhanddeiliaid o'r rhestr o ddarparwyr sydd wedi cofrestru gyda'r Rheoleiddiwr Pensiynau. Mae'n rhaid i'r cwmnïau gwasanaethau ariannol sy'n darparu cynlluniau pensiwn rhanddeiliaid gofrestru gyda'r Rheoleiddiwr Pensiynau yn gyntaf. Gallwch weld y gofrestr o gynlluniau pensiwn rhanddeiliaid cymeradwy ar wefan y Rheoleiddiwr Pensiynau, neu gallwch ysgrifennu atynt i ofyn am gopi. Gweler Rhagor o help i gael eu manylion cyswllt.

Unwaith y byddwch wedi cymharu rhai cynlluniau pensiwn rhanddeiliaid gwahanol ac wedi gwneud eich dewis, yna mae angen i chi wneud y canlynol:

  • trafod eich dewis o gynllun gyda'ch cyflogeion cymwys
  • dynodi (dewis yn ffurfiol) eich cynllun pensiwn rhanddeiliaid
  • rhoi enw a chyfeiriad y cynllun pensiwn rhanddeiliaid i'ch cyflogeion
  • dweud wrth eich cyflogeion am eich trefniadau didynnu o'r gyflogres
  • gwneud y didyniadau o'r gyflogres os yw cyflogai am i chi wneud hynny
  • anfon cyfraniadau eich cyflogai (ac unrhyw gyfraniadau cyflogwr) at ddarparwr y cynllun pensiwn rhanddeiliaid o fewn y terfynau amser a roddwyd a
  • cofnodi'r taliadau a wnewch i'r darparwr cynllun pensiwn rhanddeiliaid