Rwy'n gyflogwr

Cysylltau perthnasol

Cyflwyniad

Mae pensiynau rhanddeiliaid yn darparu ffordd i’ch cyflogeion gynilo at eu hymddeoliad. Gan ddefnyddio eu harian eu hunain, gyda rhyddhad treth ac elw o fuddsoddiad, gall eich cyflogeion brynu pensiwn a fydd yn rhoi incwm rheolaidd iddynt pan fyddant yn ymddeol. Mae pensiynau rhanddeiliaid yn bensiynau cost isel ar gyfer pobl nad oes ganddynt fynediad i bensiwn galwedigaethol neu bensiwn personol gwerth da.

A oes rhaid i mi gynnig mynediad i bensiwn rhanddeiliaid?

Ddim ym mhob achos. Mewn rhai amgylchiadau gallwch gael eich eithrio

A oes rhaid i mi wneud cyfraniadau hefyd?

Nac oes, does dim rhaid i chi wneud cyfraniadau i gronfeydd pensiwn eich cyflogeion os nad ydych am wneud hynny. Does dim hyd yn oed rhaid i chi ymuno â'r cynllun eich hun os nad ydych am wneud hynny.

Beth yw prif nodweddion pensiynau rhanddeiliaid?

Mae cynlluniau Pensiynau Rhanddeiliaid wedi'u cynllunio i gynnig costau isel, hyblygrwydd a diogelwch. Mae'n rhaid iddynt hefyd gynnig isafswm cyfraniadau isel o £20 neu lai a does dim costau trosglwyddo.

Mae'n rhaid iddynt gael cymeradwyaeth treth gan Gyllid y Wlad ac mae'n rhaid iddynt gael eu cofrestru gyda'r Rheoleiddiwr Pensiynau.