Cysylltiadau defnyddiol
Canllaw i Ragolygon Pensiwn Cyfunol
Mae'r canllaw hwn ar gyfer cyflogwyr sydd â chynllun galwedigaethol a darparwyr cynllun pensiwn. Mae'n dweud wrthych beth yw Rhagolygon Pensiwn Cyfunol a sut i'w trefnu ar gyfer eich staff.
Yr Adran Gwaith a Phensiynau
Cewch wybod mwy am y ffordd y mae'r Adran Gwaith a Phensiynau yn gweithio gyda chyflogwyr drwy wefan yr Adran Gwaith a Phensiynau.
Cyllid y Wlad
Mae gwefan Cyllid y Wlad yn darparu gwybodaeth a chyngor i'ch helpu i weithio allan a didynnu treth a chyfraniadau Yswiriant Gwladol.
Mae hefyd yn darparu cynllunydd blwyddyn i weld digwyddiadau a dyddiadau pwysig ar gyfer pob mis a gwybodaeth am amrywiaeth o bynciau fel rhoi gwaith i gyflogai newydd, cyfnod mamolaeth a dechrau a gorffen blwyddyn dreth.
Gallwch hefyd ffonio Llinell Gymorth Cyflogwyr Cyllid y Wlad ar: 0845 7 143 143. Mae'r llinell gymorth ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener o 8am i 8pm, ac ar ddydd Sadwrn a dydd Sul o 8.00am i 5.00pm. Mae rhif ffôn testun ar gael i bobl sydd â nam ar eu clyw neu ar eu lleferydd ar 0845 602 1380.
Y Ganolfan Byd Gwaith
Bydd y Ganolfan Byd Gwaith yn eich helpu i ddod o hyd i'r bobl sydd eu hangen arnoch i lenwi'ch swyddi gwag a darparu gwybodaeth ddefnyddiol am recriwtio a diswyddo i chi.
Deddfwriaeth cynlluniau pensiwn rhanddeiliaid
Mae Llyfrfa Ei Mawrhydi yn darparu mynediad ar-lein i ddeddfwriaeth fel:
Mae’r canllaw hwn, sydd ar gael drwy ein canolfan adnoddau, yn esbonio beth yw pensiynau rhanddeiliaid a ph’un a effeithir arnoch chi gan gyfreithiau pensiynau rhanddeiliaid.
Yr Adran dros Ddiwygio Busnes, Menter a Rheoleiddio
Mae’r adran yma yn darparu gwybodaeth a gwasanaethau i hyrwyddo menter, newyddbethau a chynyddu cynhyrchiant, annog dechrau busnes llwyddiannus, ac wrth gynyddu’r cynhwysedd am fusnes, yn cynnwys SME, i dyfu, i fuddsoddi, i ddatblygu sgiliau,i fabwysiadu ymarferiad gorau. Mae’n darparu cymorth gydag undeb lafur, materion yr amgylchedd, materion Ewropeaidd a llawer o bethau eraill.
Dolen Gyswllt Busnes
Mae’r wefan Business Link yn darparu gwybodaeth busnes uniongyrchol a mynediad i ystod eang o gefnogaeth busnes.
Y Gwasanaeth Ymgynghorol Pensiynau
Mae’r Gwasanaeth Ymgynghorol Pensiynau yn gyfundrefn annibynnol, ddi-elw sy’n darparu gwybodaeth am ddim, cyngor ac arweiniad ar y sbectrwm cyfan o bensiynau yn cynnwys cynlluniau Y Wladwriaeth, cwmni, personol ac hapddaliwr.Mae’r Gwasanaeth Ymgynghorol Pensiynau yn gweithredu gwasanaeth ebost a llinell gymorth. I gael mynedfa i’r ffurflen ebost ymwelwch â’u gwefan. Eu rhif llinellgymorth yw 0845 601 2923.
Cofrestr cynlluniau pensiwn rhanddeiliaid
Rhestr yw hon o gynlluniau pensiwn rhanddeiliaid wedi'u cymeradwy a'u cofrestru a gyhoeddir gan y Rheoleiddiwr Pensiynau, lle gall cyflogwyr ddewis cynllun ohono.
Chwilio am ymgynghoriadau?
Gellir cael ymgynghoriadau ar reoliadau drafft a newidiadau i bolisi drwy'r Ganolfan adnoddau ar wefan yr Adran Gwaith a Phensiynau


