Pensiynau preifat a'ch arian
Awdurdod Gwasanaethau Ariannol: Yn cynnig gwybodaeth
cyffredinol am gynnyrch a gwasanaethau ariannol. Ffoniwch 0845 606 1234.
Mae'r llinellau ar agor dydd Llun i ddydd Gwener 8.00am i 8.00pm. Codir
cyfraddau lleol ar alwadau.
Cewch mwy o wybodaeth ar wefan yr Awdurdod
Gwasanaethau Ariannol
Gallwch hefyd siopa o gwmpas am
bensiynau drwy ddefnyddio eu tablau cymharol ar eu gwefan
Gwnewch eich gwiriad
iechyd ariannol eich hun ar eu gwefan
Ymgynghorwyr Ariannol Annibynnol: Gallwch hefyd gysylltu
ag ymgynghorydd ariannol annibynnol, ond cofiwch, yn arferol bydd yn rhaid
i chi dalu am hyn.
Dewch o hyd i ymgynghorydd annibynnol
ariannol
Y Gwasanaeth Ymgynghorol Pensiynau: Am wybodaeth a chyngor
am ddim am bensiynau cwmni, personol a chyfranddeiliaid, ffoniwch Y Gwasanaeth
Ymgynghorol Pensiynau ar 0845 601 2923. Mae'r llinellau ar agor dydd Llun
i ddydd Gwener 9.00 am i 5.00 pm. Codir cyfraddau lleol ar alwadau.
Am fwy o wybodaeth
ewch i wefan Y Gwasanaeth Ymgynghorol Pensiynau
Y Rheolydd Pensiynau: Os oes gennych unrhyw bryderon
ynglyn â'r ffordd mae eich cynllun pensiwn galwedigaethol yn cael ei redeg,
ffoniwch y Rheolydd Pensiynau ar 0870 606 3636. Mae'r llinellau ar agor
dydd Llun i ddydd Gwener 9.00 pm i 5.00pm.
Codir cyfraddau lleol
ar alwadauAm fwy o wybodaeth ewch i wefan y Rheolydd Pensiynau


